Jeremiah 23

Gobaith i'r dyfodol

“Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r  Arglwydd. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.” Felly dyma mae'r  Arglwydd, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi ei wneud,” meddai'r  Arglwydd. “Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a  a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw. Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r  Arglwydd.

“Mae'r amser yn dod,” meddai'r  Arglwydd,
“pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,
un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.
Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth.
Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub
a bydd Israel yn saff.
Yr enw ar y brenin yma fydd,
‘Yr  Arglwydd sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’

“Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r  Arglwydd. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr  Arglwydd yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’ bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr  Arglwydd yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”

Barn Duw ar y proffwydi ffals

Neges am y proffwydi:

Jeremeia: Dw i wedi cynhyrfu'n lân,
a dw i'n crynu trwyddo i.
Dw i fel dyn wedi meddwi;
fel rhywun sy'n chwil gaib.
Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r  Arglwydd
a'i neges yn cael ei drin.
10 Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo.
Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi ei felltithio.
Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo.
A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwg
ac yn camddefnyddio eu grym.
Yr  Arglwydd
11 “Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol.
Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud
hyd yn oed yn y deml ei hun!”

—yr  Arglwydd sy'n dweud hyn.
12 “Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig.
Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio.
Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw.
Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”

—yr  Arglwydd sy'n dweud hyn.
13 “Gwelais broffwydi Samaria gynt
23:13 Samaria gynt Roedd Samaria, prifddinas teyrnas Israel yn y gogledd, wedi ei choncro gan fyddin Assyria bron 150 o flynyddoedd cyn hyn (yn 722 CC)

yn gwneud peth cwbl anweddus:
Roedden nhw'n proffwydo ar ran y duw Baal,
ac yn camarwain fy mhobl, Israel.
14 A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem
yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll.
Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd!
Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg
yn lle ceisio eu cael nhw i stopio.
Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i.
Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra
23:14 Sodom … Gomorra Dwy dref gafodd eu dinistrio gan yr  Arglwydd am fod y bobl yno mor ddrwg (gw. Genesis 18:16—19:29).
.”

15 Felly, dyma mae'r  Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud am y proffwydi:

“Dw i'n mynd i wneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw,
ac yfed dŵr gwenwynig barn.
Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol
am ledu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.”

16 Dyma mae'r  Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud:

“Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud –
maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag.
Maen nhw'n rhannu eu ffantasïau
yn lle beth mae'r  Arglwydd yn ei ddweud.
17 Maen nhw'n dal ati i ddweud
wrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i,
‘Mae'r  Arglwydd yn dweud y bydd popeth yn iawn!’
Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig,
‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’
18 Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r  Arglwydd,
ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud?
Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?”
Jeremeia:
19 Gwyliwch chi! Bydd yr  Arglwydd yn ddig.
Bydd yn dod fel storm.
Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg.
20 Fydd llid yr  Arglwydd ddim yn tawelu
nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud.
Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
Yr  Arglwydd
21 “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma,
ond roedden nhw'n rhedeg i gyhoeddi eu neges.
Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw,
ond roedden nhw'n dal i broffwydo.
22 Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando,
bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl.
Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.”

23 “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai'r  Arglwydd.

“Onid fi ydy'r Duw sy'n gweld popeth o bell?”

24 “Pwy sy'n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai'r  Arglwydd.

“Dw i ym mhobman drwy'r nefoedd a'r ddaear!”

25 “Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi yn ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. 26 Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo eu hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd? 27 Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal.

28 Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwyd
ei rhannu fel breuddwyd.
Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddo
gyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.”
“Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!”
meddai'r  Arglwydd.
29 “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,”
meddai'r  Arglwydd.
“Mae fel gordd yn dryllio carreg.”

30 “Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dwyn y neges gan ei gilydd,” meddai'r  Arglwydd. 31 “Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna'n honni, ‘Dyma beth mae'r  Arglwydd yn ei ddweud …’ 32 Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r  Arglwydd, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi ei ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i ddim eu hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r  Arglwydd.

Baich trwm yr  Arglwydd

33 Yna dyma'r  Arglwydd yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae'r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy'r baich mae'r  Arglwydd yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy'r baich, a dw i'n mynd i'ch taflu chi i ffwrdd,’ 34 Ac os bydd proffwyd, offeiriad, neu unrhyw un arall yn dweud, ‘Mae'r  Arglwydd yn rhoi baich trwm arnon ni,’ bydda i'n cosbi'r dyn hwnnw a'i deulu. 35 Dyma ddylech chi fod yn ei ofyn i'ch gilydd: ‘Beth oedd ateb yr  Arglwydd?’ neu ‘Beth ddwedodd yr  Arglwydd?’ 36 Rhaid i chi stopio dweud fod yr  Arglwydd yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi'ch hunain yn eu dweud ydy'r ‛baich‛. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr  Arglwydd holl-bwerus, y Duw byw! 37 Beth ddylech chi ei ofyn i'r proffwyd ydy, ‘Beth oedd ateb yr  Arglwydd?’ neu ‘Beth ddwedodd yr  Arglwydd?’ 38 Os daliwch chi ati i ddweud, ‘Mae'r  Arglwydd yn rhoi baich trwm arnon ni,’ dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dal i ddweud “Mae'r  Arglwydd yn rhoi baich trwm arnon ni,” er fy mod i wedi dweud yn glir wrthoch chi am beidio gwneud hynny. 39 Felly, dw i'n mynd i'ch codi chi a'ch taflu chi i ffwrdd – chi a'r ddinas rois i i'ch hynafiaid chi. 40 Bydda i'n eich gwneud chi'n jôc, a byddwch yn cael eich cywilyddio am byth.’”

Copyright information for CYM