Jeremiah 32

Jeremeia'n prynu cae

Rhoddodd yr  Arglwydd neges arall i Jeremeia pan oedd Sedeceia wedi bod yn frenin ar Jwda ers bron ddeg mlynedd
32:1 Sedeceia … ddeg mlynedd h.y. 588 CC
. Roedd hi'n flwyddyn un deg wyth o deyrnasiad Nebwchadnesar,
ac roedd byddin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem. Roedd Jeremeia yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu ym mhalas brenin Jwda. Sedeceia oedd wedi gorchymyn ei gadw yno ar ôl ei holi pam ei fod yn proffwydo fod yr  Arglwydd yn dweud: “Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma i frenin Babilon. Bydd e'n ei choncro hi. Bydd y brenin Sedeceia yn cael ei ddal, a bydd yn cael ei osod i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon a'i wynebu'n bersonol. Yna bydd Sedeceia'n cael ei gymryd i Babilon, a bydd yn aros yno nes bydda i, yr  Arglwydd, wedi gorffen delio hefo fe. Gallwch ddal ati i ymladd yn erbyn y Babiloniaid, ond wnewch chi ddim ennill!”

Dyna pryd dwedodd Jeremeia, “Mae'r  Arglwydd wedi rhoi'r neges yma i mi: ‘Bydd Chanamel, mab dy ewythr Shalwm, yn dod i dy weld di. Bydd yn gofyn i ti brynu'r cae sydd ganddo yn Anathoth, am mai ti ydy'r perthynas agosaf, ac felly ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu.’ A dyna'n union ddigwyddodd. Dyma Chanamel, cefnder i mi, yn dod i'm gweld yn iard y gwarchodlu. Gofynnodd i mi, ‘Wyt ti eisiau prynu'r cae sydd gen i yn Anathoth, yn ardal Benjamin? Ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu am mai ti ydy'r perthynas agosaf. Pryna fe i ti dy hun.’ Pan ddigwyddodd hyn roeddwn i'n gwybod yn iawn fod yr  Arglwydd wedi siarad gyda mi.

“Felly dyma fi'n prynu'r cae sydd yn Anathoth gan Chanamel, a thalu un deg saith darn arian amdano. 10 Dyma fi'n arwyddo'r gweithredoedd a'i selio o flaen tystion, pwyso'r arian mewn clorian a thalu iddo. 11 Roedd dau gopi o'r gweithredoedd – un wedi ei selio oedd yn cynnwys amodau a thelerau'r cytundeb, a'r llall yn gopi agored. Wedyn dyma fi'n eu rhoi nhw 12 i Barŵch (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Gwnes hyn i gyd o flaen fy nghefnder Chanamel a'r dynion oedd wedi ardystio'r gweithredoedd, a phawb arall o bobl Jwda oedd yn eistedd yn iard y gwarchodlu. 13 Yna dyma fi'n dweud wrth Barŵch o'u blaenau nhw i gyd, 14 ‘Dyma mae'r  Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymer y gweithredoedd yma, y copi sydd wedi ei selio a'r un agored, a'i rhoi mewn jar pridd i'w cadw'n saff am amser hir.” 15 Achos dyma mae'r  Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Bydd tai a chaeau a gwinllannoedd yn cael eu prynu yn y wlad yma eto.”’

Gweddi Jeremeia

16 “Ar ôl rhoi'r gweithredoedd i Barŵch dyma fi'n gweddïo ar yr  Arglwydd:

17 ‘O! Feistr,  Arglwydd! Ti ydy'r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear. Does dim byd yn rhy anodd i ti ei wneud. 18 Ti'n dangos cariad diddiwedd at filoedd. Ond rwyt ti hefyd yn gadael i blant ddiodde am bechodau eu rhieni. Ti ydy'r Duw mawr, yr Un grymus! Yr  Arglwydd holl-bwerus ydy dy enw di. 19 Ti ydy'r Duw doeth sy'n gwneud pethau rhyfeddol. Ti'n gweld popeth mae pobl yn eu gwneud. Ti sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn. 20 Ti wnaeth arwyddion gwyrthiol a phethau rhyfeddol yng ngwlad yr Aifft. Ti'n enwog hyd heddiw yn Israel ac ar hyd a lled y byd am beth wnest ti. 21 Defnyddiaist dy nerth rhyfeddol i ddod â'th bobl Israel allan o wlad yr Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol. b  22 Ac wedyn dyma ti'n rhoi'r wlad ffrwythlon yma iddyn nhw – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! Dyna oeddet ti wedi ei addo i'w hynafiaid nhw.
23 Ond pan ddaethon nhw i gymryd y wlad drosodd, wnaethon nhw ddim gwrando arnat ti na byw fel roeddet ti wedi eu dysgu nhw. Wnaethon nhw ddim byd oeddet ti'n ei ddweud. Dyma pam mae'r dinistr yma wedi dod arnyn nhw. 24 Mae rampiau gwarchae wedi eu codi o gwmpas y ddinas, yn barod i'w chymryd hi. Mae'r rhyfela, y newyn a'r haint, yn siŵr o arwain at y ddinas yma'n cael ei choncro gan y Babiloniaid. Fel y gweli, mae popeth yn digwydd yn union fel gwnest ti rybuddio. 25 Ac eto, er fod y Babiloniaid yn mynd i goncro'r ddinas yma, rwyt ti wedi dweud wrtho i am brynu'r cae yma, a chael tystion i wneud y peth yn gyfreithlon.’”

Ateb Duw i Jeremeia

26 Dyma'r  Arglwydd yn ateb Jeremeia: 27 “Yr  Arglwydd ydw i, Duw y ddynoliaeth gyfan. Mae'n wir, does dim byd yn rhy anodd i mi ei wneud. 28 Felly, dyma dw i'n ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo'r Babiloniaid. Bydd Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ei choncro. 29 Bydd byddin Babilon yn ymosod ac yn dod i mewn i'r ddinas yma, yn ei rhoi ar dân ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd y tai ble buodd pobl yn aberthu i Baal ar eu toeau c , ac yn tywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill, yn cael eu llosgi. Roedd pethau fel yna yn fy ngwylltio i. 30 Dydy pobl Israel a Jwda wedi gwneud dim byd ond drwg o'r dechrau cyntaf. Maen nhw wedi fy nigio i drwy addoli eilunod maen nhw eu hunain wedi eu cerfio,’ meddai'r  Arglwydd. 31 ‘Mae'r ddinas yma wedi fy ngwylltio i'n lân o'r diwrnod pan gafodd ei hadeiladu hyd heddiw. Felly rhaid i mi gael gwared â hi. 32 Mae pobl Israel a Jwda wedi fy ngwylltio'n lân drwy wneud cymaint o bethau drwg – nhw a'u brenhinoedd a'u swyddogion, yr offeiriaid a'r proffwydi, pobl Jwda i gyd, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem! 33 Maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i! Dw i wedi ceisio eu dysgu nhw dro ar ôl tro, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando a chael eu cywiro. 34 Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi. 35 Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd i Baal yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach i Molech! d  Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! Mae wedi gwneud i Jwda bechu yn ofnadwy!’

36 “‘Mae'r rhyfel, a'r newyn a haint yn mynd i arwain at roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon,’ meddech chi. Gwir. Ond nawr dw i, yr  Arglwydd, Duw Israel, am ddweud hyn am y ddinas yma: 37 ‘Dw i'n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o'r gwledydd ble gwnes i eu gyrru nhw. e  Ro'n i wedi gwylltio'n lân hefo nhw. Roeddwn i'n ffyrnig! Ond dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r lle yma, a byddan nhw'n cael byw yma yn hollol saff. 38 Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. 39 Byddan nhw i gyd yn benderfynol o fyw yn ffyddlon i mi bob amser, a bydd hynny'n dda iddyn nhw a'u plant ar eu holau. 40 Bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth f  – ymrwymiad i beidio stopio gwneud daioni iddyn nhw. Bydda i'n plannu ynddyn nhw barch ata i fydd yn dod o waelod calon, a fyddan nhw byth yn troi cefn arna i eto. 41 Bydda i wrth fy modd yn gwneud pethau da iddyn nhw. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir yma eto. Bydda i'n ffyddlon iddyn nhw, ac yn rhoi fy hun yn llwyr i wneud hyn i gyd.’

42 “Ie, dyma dw i, yr  Arglwydd, yn ei ddweud: ‘Fel y bydda i'n dod â'r dinistr mawr yma arnyn nhw, bydda i wedyn yn dod â'r holl bethau da dw i'n ei addo iddyn nhw.’ 43 ‘Ond mae'r wlad yma'n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma. Mae'r wlad wedi ei choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto. 44 Bydd caeau yn cael eu prynu a'u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a'u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a'r Negef yn y de. Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai'r  Arglwydd.

Copyright information for CYM