Jeremiah 6

Y rhybudd olaf i Jerwsalem

“Bobl Benjamin, ffowch i le saff!
A dianc o ganol Jerwsalem!
Chwythwch y corn hwrdd
6:1 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn Tecoa,
a chynnau tân yn Beth-hacerem i rybuddio'r bobl.
Mae byddin yn dod o'r gogledd i ddinistrio popeth.
Mae Seion hardd fel porfa hyfryd,
ond daw byddin iddi fel bugeiliaid yn arwain eu praidd.
Byddan nhw'n codi eu pebyll o'i chwmpas,
a bydd yn cael ei phori nes bydd dim ar ôl!
‘Paratowch i ymladd yn ei herbyn!
Dewch! Gadewch i ni ymosod arni ganol dydd!’
‘Hen dro, mae'n dechrau nosi –
mae'r haul yn machlud a'r cysgodion yn hir.’
‘Sdim ots! Gadewch i ni ymosod ganol nos,
a dinistrio ei phalasau yn llwyr.’
Ie, dyma mae'r  Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud:
‘Torrwch goed a chodi ramp i ymosod ar ei waliau.
Hi ydy'r ddinas sydd i'w chosbi;
does dim byd ond gormes ynddi!
Mae rhyw ddrwg yn tarddu ohoni'n ddi-baid,
fel dŵr yn llifo o ffynnon.
Sŵn trais a dinistr sydd i'w glywed ar ei strydoedd;
a dw i'n gweld ond pobl wedi eu hanafu ym mhob man.’
Felly dysga dy wers, Jerwsalem!
Neu bydda i'n troi yn dy erbyn, ac yn dy ddinistrio'n llwyr.
Fydd neb yn byw ynot ti!”
Dyma mae'r  Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud:
“Byddan nhw'n lloffa'n llwyr y rhai fydd wedi eu gadael ar ôl.
Byddan nhw fel casglwr grawnwin yn edrych dros y brigau yr ail waith
i wneud yn siŵr fod dim ffrwyth wedi ei adael.”
Jeremeia:
10 “Ond pwy sy'n mynd i wrando
hyd yn oed os gwna i eu rhybuddio nhw?
Maen nhw'n gwrthod gwrando.
Dŷn nhw'n cymryd dim sylw!
Mae dy neges,  Arglwydd, yn jôc –
does ganddyn nhw ddim eisiau ei glywed!
11 Fel ti, dw i'n hollol ddig gyda nhw,  Arglwydd;
alla i ddim ei ddal yn ôl.”
Yr  Arglwydd: “Felly tywallt dy ddig ar y plant sy'n chwarae ar y stryd,
ac ar y criw o bobl ifanc.
Bydd cyplau priod yn cael eu cymryd i ffwrdd,
y bobl hŷn a'r henoed.
12 Bydd eu tai yn cael eu rhoi i'r gelynion,
a'u caeau, a'u gwragedd hefyd!
Dw i'n mynd i daro pawb sy'n byw yn y wlad yma!”

—yr  Arglwydd sy'n dweud hyn.
13 “Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest –
y bobl gyffredin a'r arweinwyr.
Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid –
maen nhw i gyd yn twyllo!
14 Mae'r help mae'n nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag.
‘Bydd popeth yn iawn,’ medden nhw;
Ond dydy popeth ddim yn iawn!
15 Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth!
Ond na! does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd.
Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido!
Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall.
Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.”

—yr  Arglwydd sy'n dweud hyn.

Y bobl yn gwrthod ffordd Duw

16 Dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud:

“Dych chi'n sefyll ar groesffordd,
felly holwch am yr hen lwybrau –
sef y ffordd sy'n arwain i fendith.
Ewch ar hyd honno,
a cewch orffwys wedyn.”
Ond ymateb y bobl oedd “Na, dim diolch!”
17 “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i'ch rhybuddio chi.
Os ydy'r corn hwrdd
6:17 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb.
Ond roeddech chi'n gwrthod cymryd unrhyw sylw.
18 Felly chi'r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn.
Cewch weld beth fydd yn digwydd i'r bobl yma.
19 Gwranda dithau ddaear. Dw i'n dod â dinistr ar y bobl yma.
Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am eu holl gynllwynio.
Dŷn nhw ddim wedi cymryd sylw o beth dw i'n ddweud,
ac maen nhw wedi gwrthod beth dw i'n ddysgu iddyn nhw.
20 Beth ydy'r pwynt cyflwyno thus o Sheba i mi,
neu sbeisiau persawrus o wlad bell?
Dw i ddim yn gallu derbyn eich offrymau i'w llosgi,
a dydy'ch aberthau chi ddim yn plesio chwaith.”

21 Felly, dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud:

“Dw i'n mynd i osod cerrig o'u blaenau nhw,
i wneud i'r bobl yma faglu a syrthio.
Bydd rhieni a phlant,
cymdogion a ffrindiau yn marw.”

Y fyddin yn ymosod o'r gogledd

22 Dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud:

“Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.
Mae gwlad gref ym mhen draw'r byd yn paratoi i ryfel.
23 Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf;
maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd.
Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo.
Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig,
ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Seion.”
Y bobl:
24 “Dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw,
Does dim byd allwn ni ei wneud.
Mae dychryn wedi gafael ynon ni
fel gwraig mewn poen wrth gael babi. c 
25 Paid mentro allan i gefn gwlad.
Paid mynd allan ar y ffyrdd.
Mae cleddyf y gelyn yn barod.
Does ond dychryn ym mhobman!”
Jeremeia:
26 “Fy mhobl annwyl, gwisgwch sachliain a rholio mewn lludw.
Galarwch ac wylwch fel petai eich unig blentyn wedi marw –
dyna'r golled fwya chwerw!
Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod unrhyw funud!”
Yr  Arglwydd:
27 “Jeremeia, dw i am i ti brofi fy mhobl,
fel un sy'n profi safon metel.
Dw i am i ti eu gwylio nhw, a phwyso a mesur.”
Jeremeia:
28 “Maen nhw'n ofnadwy o benstiff, yn dweud celwyddau,
ac mor galed â haearn neu bres.
Maen nhw i gyd yn creu llanast llwyr!
29 Mae'r fegin yn chwythu'n ffyrnig, a'r tân yn poethi.
Ond mae gormod o amhurdeb i'r plwm ei symud.
Mae'r broses o buro wedi methu, a'r drwg yn dal yno.
30 ‛Arian diwerth‛ ydy'r enw arnyn nhw,
am fod yr  Arglwydd wedi eu gwrthod nhw.”
Copyright information for CYM