Job 15

Yr ail gylch o ddadleuon

(Job 15:1—21:34)

Ymateb Eliffas: Dydy Job ddim yn parchu Duw

A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:

“Ydy dyn doeth yn ateb drwy falu awyr?
Ti'n llawn o wynt poeth y dwyrain!
Ydy e'n dadlau ei achos drwy siarad lol,
a defnyddio dim ond geiriau gwag?
Dwyt ti'n dangos dim parch at Dduw,
ac yn rhwystro eraill rhag myfyrio arno!
Dy bechod sy'n gwneud i ti ddweud y fath bethau;
rwyt ti mor gyfrwys yn y ffordd ti'n siarad.
Dy eiriau dy hun sy'n dy gondemnio – nid fi;
mae dy geg yn tystio yn dy erbyn di!
Ai ti oedd y dyn cyntaf i gael ei eni?
Oeddet ti'n bodoli cyn y bryniau?
Oeddet ti wedi clustfeinio ar gyfrinachau Duw?
Ai ti ydy'r unig un doeth?
Beth wyt ti'n ei wybod fwy na ni?
Beth wyt ti'n ei ddeall nad ydyn ni'n ei ddeall?
10 Mae oedran a gwallt gwyn o'n plaid ni –
dw i wedi byw yn hirach na dy dad!
11 Ydy'r cysur mae Duw'n ei gynnig ddim digon?
Mae ei eiriau mor garedig a thyner.
12 Pam wyt ti'n gadael i deimladau dy reoli?
Mae dy lygaid yn dangos dy fod wedi gwylltio.
13 Sut alli di golli dy dymer gyda Duw,
a gadael i'r fath eiriau groesi dy wefusau!
14 Sut all person meidrol fod yn lân?
Neu un wedi ei eni o wraig honni mai fe sy'n iawn?
15 Os ydy Duw ddim yn gallu trystio ei angylion,
a'r byd nefol ddim yn lân yn ei olwg,
16 sut mae'n edrych ar ddynoliaeth ffiaidd, lygredig,
sy'n gwneud drwg fel mae'n yfed dŵr!
17 Gwna i ddangos i ti, os gwnei di wrando.
Gwna i ddweud beth dw i wedi ei weld –
18 pethau mae dynion doeth wedi eu dangos;
pethau wedi eu dysgu gan eu tadau,
19 Cafodd y tir ei roi iddyn nhw,
a doedd pobl estron ddim yn eu plith nhw.
20 Mae'r dyn drwg yn dioddef poen ar hyd ei fywyd;
a'r gormeswr creulon drwy gydol ei holl flynyddoedd.
21 Mae'n clywed sŵn sy'n ei fygwth o hyd,
a phan mae bywyd yn braf mae'r dinistrydd yn dod.
22 Does ganddo ddim gobaith dianc o'r tywyllwch;
ac mae'n gwybod y bydd y cleddyf yn ei ladd.
23 Mae'n crwydro – bydd yn fwyd i fwlturiaid;
ac mae'n gwybod fod y diwrnod tywyll yn dod.
24 Mae'n cael ei ddychryn gan ofid
a'i lethu gan bryder,
fel brenin ar fin mynd i ryfel.
25 Am ei fod wedi codi ei ddwrn i fygwth Duw,
a gwrthwynebu'r Duw sy'n rheoli popeth.
26 Wedi ei herio ac ymosod arno
â'i darian drwchus gref!
27 Er ei fod yn llond ei groen ac yn iach
a'i lwynau'n gryfion,
28 mae'n byw mewn trefi fydd yn cael eu dinistrio,
ac mewn tai lle bydd neb ar ôl;
rhai fydd yn ddim mwy na pentwr o rwbel.
29 Fydd e ddim yn aros yn gyfoethog,
a fydd yr hyn sydd ganddo ddim yn para;
fydd ganddo ddim eiddo ar wasgar drwy'r wlad.
30 Fydd e ddim yn dianc o'r tywyllwch.
Fel coeden a'r fflamau wedi llosgi ei brigau;
bydd Duw yn anadlu arno, a bydd yn diflannu.
31 Dylai beidio trystio'r hyn sy'n ddiwerth, a'i dwyllo ei hun,
fydd dim yn cael ei dalu'n ôl iddo.
32 Bydd yn gwywo o flaen ei amser,
cyn i'w frigau gael cyfle i flaguro.
33 Bydd fel gwinwydden yn gollwng ei grawnwin;
neu goeden olewydd yn bwrw ei blodau.
34 Mae cwmni pobl annuwiol fel coeden ddiffrwyth;
ac mae tân yn llosgi pebyll y rhai sy'n derbyn breib.
35 Maen nhw'n beichiogi helynt, yn esgor ar bechod,
a'r plentyn yn y groth ydy twyll.”
Copyright information for CYM