Job 17

Anobaith Job

Dw i wedi torri fy nghalon,
mae fy nyddiau'n diffodd;
dim ond y bedd sydd o'm blaen.
Mae pawb o'm cwmpas yn gwawdio,
mae fy llygaid yn gorfod diodde'u pryfocio.
Cynnig dy hun yn fechnïydd drosto i!
Pwy arall sy'n fodlon gwarantu ar fy rhan?
Ti wedi dallu'r rhain; dŷn nhw ddim yn deall,
felly fyddan nhw ddim yn llwyddo.
Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i'w ffrindiau
tra mae ei blant ei hun yn llwgu.
Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i'r bobl;
maen nhw'n poeri yn fy wyneb.
Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid,
a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod.
Mae pobl dda yn methu credu'r peth,
a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol.
Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur,
a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth.
10 Felly dowch yn eich blaen i ymosod arna i eto!
Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi!
11 Mae fy mywyd ar ben,
a'm cynlluniau wedi eu chwalu –
pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud.
12 Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd!
‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll!
13 Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd,
a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch;
14 Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’
ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ –
15 Felly, ble mae fy ngobaith i?
Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi?
16 Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth?
Fyddwn ni'n mynd i lawr gyda'n gilydd i'r pridd?”
Copyright information for CYM