Job 19

Job yn ymateb: Mae fy Amddiffynnwr yn fwy

Dyma Job yn ateb:

“Am faint mwy dych chi'n mynd i'm poenydio,
a'm dryllio gyda'ch areithio?
Dych chi'n fy nwrdio i dro ar ôl tro,
ac yn fy hambygio yn gwbl haerllug.
A hyd yn oed petai'n wir fy mod ar fai,
dim ond fi fyddai'n dioddef wedyn!
Ond mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n well na fi,
a defnyddio'r hyn dw i'n ddiodde i brofi eich pwynt!
Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi;
mae wedi f'amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn.
Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb;
gweiddi am help, ond does dim tegwch.
Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc!
Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll.
Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i,
a thynnu'r goron oddi ar fy mhen.
10 Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr – mae hi ar ben arna i!
Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi ei diwreiddio.
11 Mae e wedi gwylltio'n lân gyda mi,
ac yn fy nhrin fel un o'i elynion.
12 Mae ei fyddin yn ymosod gyda'i gilydd;
wedi codi rampiau i warchae yn fy erbyn
a gwersylla o gwmpas fy mhabell.
13 Mae wedi gwneud i'm perthnasau gadw draw;
dydy'r bobl sy'n fy nabod i ddim eisiau gwybod.
14 Mae fy nghymdogion wedi troi cefn arna i,
a'm ffrindiau gorau wedi anghofio amdana i.
15 Mae fy morynion yn fy nhrin i fel dieithryn –
fel petawn i'n rhywun o wlad arall.
16 Dw i'n galw fy ngwas, ond dydy e ddim yn ateb,
er fy mod yn crefu arno i ddod.
17 Mae fy anadl yn atgas i'm gwraig;
a dw i'n drewi'n ffiaidd i'm teulu.
18 Mae hyd yn oed plant bach yn gwneud sbort arna i;
pan dw i'n codi, maen nhw'n gwawdio.
19 Mae fy ffrindiau agosaf yn fy ffieiddio;
a'r rhai dw i'n eu caru wedi troi yn fy erbyn.
20 Dw i'n ddim byd ond croen ac esgyrn
a dw i'n dal yma o drwch blewyn!
21 Byddwch yn garedig ata i! Chi ydy fy ffrindiau!
Mae Duw wedi fy nharo i!
22 Pam mae'n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw?
Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau?
23 O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr,
a'u cofnodi'n glir mewn sgrôl;
24 eu naddu ar graig gyda chŷn haearn,
a'u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth!
25 Ond dw i'n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw,
ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan,
26 hyd yn oed ar ôl i'm croen i gael ei ddifa.
Ond cael gweld Duw tra dw i'n dal yn fyw
19:26 dal yn fyw Hebraeg, “yn fy nghorff”.
– dyna dw i eisiau,
27 ei weld drosof fy hun;
i'm llygaid i ei weld, nid rhywun arall:
Dw i'n hiraethu am hynny fwy na dim.
28 Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’
ac wrth ddweud, ‘Arno fe'i hun mae'r bai!’
29 dylech chi ofni cael eich cosbi eich hunain –
mae eich dicter chi'n haeddu ei gosbi gan y cleddyf!
Cofiwch fod yna farn i ddod!”
Copyright information for CYM