Job 27

Job am fod yn gwbl onest

Yna dyma Job yn mynd yn ei flaen i ddweud:

“Mor sicr â'i fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg!
Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw!
Tra mae bywyd yn dal ynof i,
ac anadl Duw yn fy ffroenau,
wna i byth ddweud gair o gelwydd,
na siarad yn dwyllodrus.
Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn!
Bydda i'n onest hyd fy medd –
Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn;
mae fy nghydwybod i'n glir!
Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg;
yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn.
Pa obaith sydd i'r annuwiol pan mae'n marw,
a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno?
Fydd Duw yn gwrando arno'n gweiddi
pan fydd mewn trafferthion?
10 Fydd e'n ymgolli yn yr Un sy'n rheoli popeth?
Fydd e'n galw ar Dduw yn ddi-baid?
11 Dysgaf i i chi am nerth Duw,
heb guddio dim o fwriad yr Un sy'n rheoli popeth.
12 Dych chi wedi gweld y peth eich hunain,
felly pam dych chi'n dal i siarad y fath nonsens?
13 Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw,
a'r gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un sy'n rheoli popeth:
14 Er iddo gael llawer o blant – cânt eu taro â'r cleddyf;
fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd.
15 Bydd y rhai sy'n goroesi yn marw o'r pla,
a fydd dim amser i'r gweddwon alaru.
16 Er casglu pentwr o arian fel pridd,
a thomen o ddillad fel baw –
17 gall gasglu'r cwbl, ond y cyfiawn fydd yn eu gwisgo,
a'r diniwed fydd yn rhannu'r arian.
18 Mae'r tŷ mae'n ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn,
neu'r lloches dros dro mae'r gwyliwr yn ei greu.
19 Mae'n mynd i'w wely yn gyfoethog, ond am y tro olaf;
pan fydd yn agor ei lygaid bydd y cwbl wedi mynd.
20 Mae dychryn yn dod drosto fel ffrydlif,
a'r storm yn ei gipio yn y nos.
21 Mae gwynt y dwyrain yn ei godi a'i gymryd,
a'i ysgubo i ffwrdd o'i le;
22 mae'n ei daro'n ddidrugaredd
wrth iddo drïo'i orau i ddianc o'i afael;
23 mae'n curo'i ddwylo'n wawdlyd,
a chwibanu wrth ei yrru o'i le.
Copyright information for CYM