Job 3

Job yn drist ei fod wedi cael ei eni

Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni. Dyma ddwedodd e:

“O na fyddai'r diwrnod y ces i fy ngeni
yn cael ei ddileu o hanes! –
y noson honno y dwedodd rhywun,
‘Mae bachgen wedi ei eni!’
O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch,
fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod,
a golau dydd heb wawrio arno!
O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio;
a chwmwl yn gorwedd drosto,
a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd!
O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno,
fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn,
ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd!
O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth,
3:7 diffrwyth h.y. fod dim plant wedi cael eu geni y noson honno.

heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi!
O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw –
y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr!
3:8 ddraig yn y môr Hebraeg,  Lefiathan.

O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno,
a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau,
a heb weld pelydrau'r wawr –
10 am ei bod heb gloi drysau croth fy mam,
a'm rhwystro rhag gweld trybini.

Job yn cwyno fod rhaid iddo ddioddef byw

11 Pam wnes i ddim cael fy ngeni'n farw,
neu ddarfod wrth ddod allan o'r groth?
12 Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i,
a bronnau i mi ddechrau eu sugno?
13 Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel,
yn cysgu'n drwm a gorffwys yn y bedd,
14 gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr,
y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion;
15 gydag arweinwyr oedd â digon o aur,
ac wedi llenwi eu tai ag arian.
16 Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw,
neu fabi wnaeth ddim gweld y golau?
17 Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio,
a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys.
18 Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr,
heb lais y meistri gwaith yn gweiddi.
19 Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd,
a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr.
20 Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef,
a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?
21 Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu –
yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd.
22 Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawen
pan maen nhw'n cyrraedd y bedd.
23 Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas,
a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini?
24 Yn lle bwyta dw i'n gwneud dim ond ochneidio;
dw i'n griddfan ac yn beichio crïo.
25 Mae'r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd;
yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir.
26 Does gen i ddim llonydd, dim heddwch,
dim gorffwys – dim ond trafferthion.”
Copyright information for CYM