Job 30

Ond bellach mae hogiau ifanc
yn gwenu'n wawdlyd arna i;
rhai y byddwn i'n rhoi mwy o sylw
i'm cŵn defaid
30:1 cŵn defaid Roedd cŵn yn cael eu dirmygu yn y cyfnod, am eu bod yn greaduriaid rheibus. (gw. Eseia 56:10-12)
nag i'w tadau nhw!
Dynion rhy wan i fod o iws i mi –
dynion wedi colli pob cryfder.
Dynion sy'n denau o angen a newyn,
yn crwydro'r tir sych,
a'r diffeithwch anial yn y nos.
Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt,
a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes.
Dynion wedi eu gyrru allan o gymdeithas,
a pobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron.
Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd,
mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu.
Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn,
ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni.
Pobl ddwl a da i ddim,
wedi eu gyrru i ffwrdd o gymdeithas.
Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw;
ac yn ddim byd ond testun sbort.
10 Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i;
ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith.
11 Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i,
maen nhw'n ymosod arna i yn ddi-stop.
12 Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr,
i'm bwrw oddi ar fy nhraed;
maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio.
13 Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro,
ac yn llwyddo i'm llorio,
heb angen unrhyw help.
14 Fel byddin yn llifo drwy fwlch llydan;
yn rholio i mewn wrth i'r waliau syrthio.
15 Mae dychryn yn dod drosta i,
fel gwynt yn ysgubo fy urddas i ffwrdd;
mae'r gobaith o ddianc wedi diflannu fel cwmwl.
16 Bellach mae fy enaid yn drist,
a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi.
17 Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos,
a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid.
18 Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad,
a'm tagu gyda choler fy nghrys.
19 Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd;
dw i'n ddim byd ond llwch a lludw.
20 O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb;
dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw.
21 Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i;
a'm taro mor galed ac y medri.
22 Ti wedi fy nghodi ar y corwynt;
a'm taflu o gwmpas yn y storm.
23 Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i farw,
a mynd i'r lle sydd wedi ei bennu i bopeth byw.
24 Wnes i erioed godi fy llaw i daro
rhywun oedd yn galw am help yn ei drybini!
25 Ro'n i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled,
ac yn torri fy nghalon dros y tlawd.
26 Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg;
wrth edrych am olau, daeth tywyllwch.
27 Dw i'n corddi y tu mewn i mi,
wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef.
28 Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul;
dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help.
29 Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal,
neu gymar i'r estrys.
30 Mae fy nghroen wedi tywyllu,
a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres.
31 Felly mae fy nhelyn yn canu alaw drist,
a'm ffliwt yn cyfeilio i'r rhai sy'n galaru.
Copyright information for CYM