Job 4

Y cylch cyntaf o ddadleuon

(Job 4:1—14:22)

Ymateb Eliffas: Mae'r dieuog yn llwyddo

A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:

“Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair?
Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth!
Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu,
a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu.
Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu,
ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu.
Ond nawr, mae wedi digwydd i ti,
a fedri di ddim godde'r peth;
mae drwg wedi dy daro,
a dyma ti yn anobeithio!
Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal?
Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti?
Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed?
Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr?
Fel yma dw i'n ei gweld hi: Y rhai sy'n aredig drygioni
ac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny!
Mae Duw yn chwythu arnyn nhw,
ac maen nhw'n cael eu difa;
maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau.
10 Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno,
pan mae dannedd y llewod ifanc wedi eu torri.
11 Heb ysglyfaeth mae'r llew cryf yn marw,
a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar.

Gweledigaeth Eliffas

12 Ces neges yn dawel o'r dirgel,
dim ond sibrydiad bach a glywais.
13 Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos,
pan mae pobl yn cysgu'n drwm.
14 Ro'n i wedi dychryn, ac yn crynu trwof;
roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd!
15 Teimlais awel yn pasio heibio i'm hwyneb,
a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
16 Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen,
ond doeddwn i ddim yn ei nabod.
Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd:
17 ‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw?
Ydy pobl yn fwy pur na'r Un wnaeth nhw?
18 Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision,
ac yn cyhuddo ei angylion o fod yn ffôl,
19 pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd,
ac yn tarddu o'r llwch –
y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn!
20 Gallan nhw gael eu sathru'n farw,
unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud,
a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw.
21 Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi,
ac maen nhw'n marw mewn anwybodaeth.’
Copyright information for CYM