Job 9

Job yn ymateb: Does dim canolwr

Dyma Job yn ateb:

“Wrth gwrs, dw i'n gwybod fod hyn i gyd yn wir!
Sut all person dynol fod yn gyfiawn o flaen Duw?
Er y carai rhywun ddadlau ei achos gydag e,
fyddai rhywun ddim yn gallu ateb un o bob mil o'i gwestiynau!
Mae Duw mor ddoeth a grymus –
Pwy sydd wedi ei herio a dod allan yn un darn?
Mae e'n symud mynyddoedd heb rybudd,
ac yn eu bwrw wyneb i waered yn ei ddig.
Mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle,
nes bod ei cholofnau'n crynu.
Mae'n rhoi gorchymyn i'r haul beidio tywynnu,
ac yn cloi y sêr dan sêl.
Mae e'n lledu'r awyr,
ac yn sathru tonnau'r môr.
Fe wnaeth yr Arth ac Orion,
Pleiades a chlystyrau sêr y de.
10 Mae'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,
a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif.
11 Ond petai'n pasio heibio allwn i mo'i weld;
mae'n symud yn ei flaen heb i mi sylwi.
12 Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio?
Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’
13 Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint;
Mae helpwyr bwystfil y môr
9:13 bwystfil y môr Hebraeg,  Rahab.
wedi eu bwrw i lawr.
14 Felly pa obaith sydd i mi ei ateb,
a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn?
15 Er fy mod i'n ddieuog, alla i mo'i ateb,
dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr.
16 Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs,
allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i –
17 oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim,
ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm.
18 Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt,
dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw!
19 Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy'r Un cry!
Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn – pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys?
20 Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i;
Er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog.
21 Dydw i ddim ar fai,
ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi;
dw i wedi cael llond bol ar fywyd!
22 ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud,
‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’
23 Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn,
mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog.
24 Mae'r tir wedi ei roi yn nwylo pobl ddrwg,
ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr.
Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd?
25 Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr;
yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd.
26 Maen nhw'n llithro heibio fel cychod brwyn,
neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth.
27 Os dweda i, ‘Dw i'n mynd i stopio cwyno,
dw i am wenu a bod yn hapus,’
28 dw i'n dychryn wrth feddwl beth fydda i'n ei ddiodde nesa.
Dw i'n gwybod wnei di ddim gadael i mi fynd!
29 Dw i'n cael fy nghyfri'n euog beth bynnag,
felly beth ydy'r pwynt ymdrechu?
30 Petawn i'n ymolchi â sebon,
ac yn sgwrio fy nwylo â soda,
31 byddet ti'n fy suddo mewn carthion
nes bod hyd yn oed fy nillad yn ffiaidd i mi.
32 Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud,
‘Gad i ni fynd i gyfraith!’
33 O na fyddai canolwr rhyngon ni,
i osod ei law ar y naill a'r llall ohonon ni!
34 Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna i
fel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o'i flaen.
35 Byddwn i'n siarad yn agored wedyn, heb ofni;
ond fel mae pethau, alla i ddim gwneud hynny.
Copyright information for CYM