Judges 18

Llwyth Dan yn setlo yn Laish

Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel. Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n gadael Sora ac Eshtaol, a cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos.

Dyma nhw'n clywed y dyn ifanc o lwyth Lefi yn siarad pan oedden nhw wrth dŷ Micha. Roedden nhw'n nabod ei acen. Felly dyma nhw'n galw heibio a dechrau ei holi, “Sut ddest ti yma? Beth wyt ti'n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?”

A dyma fe'n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi ei wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai.

“Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni'n llwyddiannus.”

A dyma'r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae'r  Arglwydd gyda chi bob cam o'r ffordd!”

Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.

Dyma'r dynion yn mynd yn ôl at eu pobl i Sora ac Eshtaol. A dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?”

A dyma nhw'n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma'n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw. 10 Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”

11 Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro. 12 Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearim yn Jwda. (Mae'r lle yn dal i gael ei alw yn Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearim.) 13 Yna dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha. 14 A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod ac eilun-ddelwau teuluol yma, eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd? Beth ydych chi am ei wneud?”

15 Felly dyma nhw'n galw heibio a mynd i dŷ y Lefiad ifanc oedd biau Micha, a'i gyfarch, “Sut mae pethau?”

16 Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref. 17 Tra roedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi ei gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd. 18 Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe'n gofyn, “Beth ydych chi'n wneud?”

19 A dyma nhw'n dweud wrtho, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Fyddai hi ddim yn well cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel nag i deulu un dyn?” 20 Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwau'r teulu a'r eilun wedi ei gerfio a mynd gyda nhw.

21 I ffwrdd â nhw gyda'r plant, yr anifeiliaid a'r eiddo i gyd ar y blaen. 22 Yna pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau. 23 Dyma nhw'n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy'n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?”

24 Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi eu gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’”

25 Ac medden nhw wrtho, “Well i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a byddan nhw'n dod ac yn dy ladd di a dy deulu!”

26 Yna dyma nhw'n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith.

Pan sylweddolodd Micha eu bod nhw'n gryfach na'r criw o ddynion oedd gyda fe, dyma fe'n troi am adre.

27 Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda'r offeiriad a'r delwau roedd Micha wedi eu gwneud. Dyna lle roedd pobl Laish, yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. A dyma milwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi'r dref yn ulw. 28 Doedd neb yn gallu dod i'w helpu nhw. Roedden nhw'n rhy bell o Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall. Roedd y dref mewn dyffryn oedd ddim yn bell o Beth-rechof.

Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu'r dref, a symud i fyw yno. 29 Cafodd y dref ei galw yn Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni.

30 Dyma bobl Dan yn gosod yr eilun wedi ei gerfio i fyny i'w addoli, ac yn gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu e yn dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud! 31 Roedd llwyth Dan yn dal defnyddio'r eilun gafodd ei wneud gan Micha i'w addoli, yr holl amser roedd cysegr Duw yn Seilo.

Copyright information for CYM