Judges 5

Debora a Barac yn canu mawl i'r  Arglwydd

1Y diwrnod hwnnw dyma Debora a Barac yn canu cân i ddathlu'r fuddugoliaeth:

2Molwch yr  Arglwydd!
Pan mae arweinwyr Israel yn arwain,
pan mae dynion yn gwirfoddoli'n frwd.
3Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr!
Dw i'n canu i'r  Arglwydd!
ie, canu mawl i'r  Arglwydd, Duw Israel.
4O  Arglwydd, pan adewaist Seir,
a chroesi gwastatir Edom,
dyma'r ddaear yn crynu,
a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw.
5Crynodd y mynyddoedd
o flaen yr  Arglwydd, Duw Sinai;
o flaen yr  Arglwydd, Duw Israel.
6Yn nyddiau Shamgar, mab Anat,
ac eto yn nyddiau Jael,
roedd pobl yn osgoi'r priffyrdd
ac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad.
7Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel,
nes i ti, Debora, godi,
fel mam gan amddiffyn Israel.
8Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd,
a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau.
Doedd dim tarian na gwaywffon i'w gael
gan bedwar deg o unedau milwrol Israel.
9Ond molwch yr  Arglwydd!
Diolch am arweinwyr Israel,
a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.
10Gwrandwch bawb! –
chi sy'n marchogaeth asennod gwynion,
yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy,
a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd.
11Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! –
yn canu am y cwbl
5:11 y cwbl Hebraeg, amddiffyn neu buddugoliaeth
wnaeth yr  Arglwydd,
a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel.
Aeth byddin yr  Arglwydd at giatiau'r ddinas!
12Deffra! deffra! Debora.
Deffra! deffra! cana gân!
Ar dy draed, Barac!
Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam!
13A dyma'r dynion oedd ar gael
yn dod i lawr at eu harweinwyr.
Daeth pobl yr  Arglwydd
i ymuno gyda mi fel rhyfelwyr.
14Daeth rhai o Effraim
(lle bu'r Amaleciaid yn byw),
a milwyr Benjamin yn eu dilyn.
Daeth capteiniaid i lawr o Machir,
ac uchel-swyddogion o Sabulon.
15Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora,
ac yn ufudd i orchymyn Barac,
yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn.
Ond roedd pobl llwyth Reuben
yn methu penderfynu beth i'w wneud.
16Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau?
A'i i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid?
Oedden, roedd pobl llwyth Reuben
yn methu penderfynu beth i'w wneud.
17A dyma pobl Gilead hefyd
yn aros yr ochr draw i'r Iorddonen
Ac yna llwyth Dan –
pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau?
Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir –
arhosodd yntau ger yr harbwr.
18Roedd dynion Sabulon a Nafftali
yn mentro'u bywydau ar faes y gâd.
19Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn,
yn Taanach wrth nentydd Megido.
Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni.
20Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr,
ac ymladd yn erbyn Sisera.
21Dyma'r Afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd;
roedd yr afon yn eu hwynebu – Afon Cison.
O, saf ar yddfau'r rhai cryfion!
22Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir,
a'u meirch yn carlamu i ffwrdd.
23“Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr  Arglwydd.
“Melltithiwch bawb sy'n byw yno,
am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr  Arglwydd
ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.”
24Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu,
sef gwraig Heber y Cenead.
Mae hi'n haeddu anrhydedd mwy
nac unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell.
25Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth;
a powlen hardd o gaws colfran.
26Gyda peg pabell yn ei llaw chwith
a morthwyl yn y llaw dde,
tarodd Sisera a malu ei benglog –
bwrw'r peg drwy ochr ei ben!
27Syrthiodd wrth ei thraed.
Syrthio, a gorwedd yn llipa.
Gorwedd ar lawr wrth ei thraed,
yn llipa a difywyd – yn farw!
28Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl;
mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid:
“Pam mae e mor hir yn dod nôl?
Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?”
29Ac mae'r gwragedd doeth o'i chwmpas
yn ateb, a hithau'n meddwl yr un fath,
30“Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau,
a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio!
Dillad lliwgar, hardd i Sisera;
dillad gwych o ddefnydd wedi ei frodio,
a sgarff neu ddau i'w gwisgo!”
31O  Arglwydd, boed i dy elynion i gyd
ddarfod yr un fath!
Ond boed i'r rhai sy'n dy garu di
ddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd!

Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd.

Copyright information for CYM