Judges 6

Gideon

1Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth roedd yr  Arglwydd yn ei ystyried yn wirioneddol ddrwg. Felly dyma fe'n gadael i Midian eu rheoli nhw am saith mlynedd. 2Roedd y Midianiaid mor greulon, nes i lawer o bobl Israel ddianc i'r mynyddoedd i fyw mewn cuddfannau ac ogofâu a lleoedd saff eraill. 3Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai'r Midianiaid, yr Amaleciaid, a phobl eraill o'r dwyrain yn ymosod arnyn nhw. 4Roedden nhw'n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio'r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw'n dwyn y defaid, yr ychen a'r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta. 5Pan oedden nhw'n dod gyda'i hanifeiliaid a'u pebyll roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw roedd hi'n amhosib eu cyfrif nhw na'u camelod. Roedden nhw'n dod ac yn dinistrio popeth.

6Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian a dyma nhw'n galw ar yr  Arglwydd am help. 7Pan ddigwyddodd hynny dyma'r  Arglwydd yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr  Arglwydd, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision. 9Gwnes i'ch achub chi o'u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi'n eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi. 10A dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Fi ydy'r  Arglwydd eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau'r Amoriaid dych chi'n byw yn eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.”

11Dyma angel yr  Arglwydd yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i'w guddio oddi wrth y Midianiaid. 12Dyma fe'n gweld yr angel, a dyma'r angel yn dweud wrtho, “Mae'r  Arglwydd gyda ti, filwr dewr.”

13“Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy'r  Arglwydd gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr  Arglwydd â ni allan o'r Aifft!’ – dyna roedden nhw'n ei ddweud. Ond bellach mae'r  Arglwydd wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i'r Midianiaid ein rheoli.”

14Ond yna, dyma'r  Arglwydd ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti'n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy'n dy anfon di.”

15Dyma Gideon yn dweud, “Ond meistr, sut alla i achub Israel? Dw i'n dod o'r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!”

16A dyma'r  Arglwydd yn ei ateb, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di'n taro'r Midianiaid i gyd ar unwaith!”

17Yna dyma Gideon yn dweud, “Plîs wnei di roi rhyw arwydd i mi i brofi mai ti sy'n siarad hefo fi go iawn. 18Paid mynd i ffwrdd nes bydda i wedi dod yn ôl gydag offrwm i'w gyflwyno i ti.”

“Gwna i aros yma nes doi di yn ôl,” meddai'r  Arglwydd.

19Felly dyma Gideon yn mynd a paratoi myn gafr ifanc. Defnyddiodd sachaid fawr o flawd i baratoi bara heb furum ynddo – tua deg cilogram. Rhoddodd y cig mewn basged a'r cawl mewn crochan a dod â'r bwyd i'w roi i'r angel, oedd o dan y goeden dderwen.

20Yna dyma'r angel yn dweud wrtho, “Gosod y cig a'r bara ar y garreg yma, yna tywallt y cawl drosto.”

Dyma Gideon yn gwneud hynny. 21Yna dyma'r angel yn cyffwrdd y cig a'r bara gyda blaen ei ffon. Ac yn sydyn dyma fflamau tân yn codi o'r garreg a llosgi'r cig a'r bara. A diflannodd angel yr  Arglwydd.

22Roedd Gideon yn gwybod yn iawn wedyn mai angel yr  Arglwydd oedd e. “O, na!” meddai. “Feistr,  Arglwydd. Dw i wedi gweld angel yr  Arglwydd wyneb yn wyneb!”

23Dyma'r  Arglwydd yn dweud wrtho, “Popeth yn iawn. Paid bod ag ofn. Dwyt ti ddim yn mynd i farw.”

24Felly dyma Gideon yn adeiladu allor yno i'r  Arglwydd, a rhoi'r enw “Heddwch yr  Arglwydd” arni. (Mae'n dal yna heddiw, yn Offra yr Abiesriaid.)

25Y noson honno, dyma'r  Arglwydd yn dweud wrtho, “Cymer y tarw gorau ond un sydd gan dy dad, yr un saith mlwydd oed. Yna dos a chwalu'r allor sydd gan dy dad i Baal, a torri'r polyn Ashera sydd wrth ei ymyl. 26Yna dw i eisiau i ti adeiladu allor i'r  Arglwydd dy Dduw ar ben y bryn yma a gosod y cerrig mewn trefn. Defnyddia bolyn y dduwies Ashera wnest ti ei dorri i lawr fel coed tân i aberthu'r tarw yn offrwm i'w losgi'n llwyr.”

27Felly dyma Gideon yn mynd â deg o weision a gwneud fel y dwedodd yr  Arglwydd. Ond arhosodd tan ganol nos, am fod ganddo ofn aelodau eraill y teulu a phobl y dref.

28Y bore wedyn, pan oedd pawb wedi codi, cawson nhw sioc o weld allor Baal wedi ei dryllio a polyn y dduwies Ashera wedi ei dorri i lawr. Dyma nhw hefyd yn gweld yr allor newydd oedd wedi ei chodi, gydag olion y tarw oedd wedi ei aberthu arni.

29“Pwy sydd wedi gwneud hyn?” medden nhw. Dyma nhw'n holi'n fanwl a darganfod yn y diwedd mai Gideon, mab Joas, oedd wedi gwneud y peth.

30Dyma'r dynion yn mynd at Joas. “Tyrd a dy fab allan yma,” medden nhw. “Fe sydd wedi dinistrio allor Baal, ac wedi torri polyn y dduwies Ashera i lawr. Rhaid iddo farw!”

31Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi'n mynd i'w achub e? Bydd unrhyw un sy'n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio ei allor!”

32Y diwrnod hwnnw dechreuodd ei dad alw Gideon yn Jerwb-baal,
6:32 Jerwb-baal sef, “Gadewch i Baal ymladd”.
ar ôl dweud, “Gadewch i Baal ymladd gydag e, os gwnaeth e chwalu allor Baal.”

33Dyma'r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o'r dwyrain yn dod at ei gilydd ac yn croesi'r Afon Iorddonen a gwersylla yn Nyffryn Jesreel. 34A dyma Ysbryd yr  Arglwydd yn dod ar Gideon. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd
6:34 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
a galw byddin o ddynion o glan Abieser i'w ddilyn.
35Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion, a dyma nhw i gyd yn dod at ei gilydd i wynebu'r gelynion.

36Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Os wyt ti'n mynd i'm defnyddio i i achub Israel, fel ti wedi addo, rho arwydd i mi i ddangos fod hynny'n wir. 37Dw i'n mynd i roi swp o wlân allan ar y llawr dyrnu heno. Os bydd gwlith ar y gwlân yn unig a'r ddaear o'i gwmpas yn sych, bydda i'n gwybod yn bendant wedyn dy fod ti'n mynd i achub Israel trwof fi, fel ti wedi addo.”

38A dyna ddigwyddodd! Pan gododd Gideon y bore wedyn dyma fe'n gwasgu'r gwlân a dyma lond powlen o wlith yn diferu ohono.

39Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Paid gwylltio gyda mi os gofynna i am un arwydd arall. Gad i mi brofi un waith eto gyda'r gwlân. Y tro yma cadw'r gwlân yn sych tra mae'r ddaear o'i gwmpas yn wlith i gyd.”

40A'r noson honno dyna'n union wnaeth Duw. Dim ond y gwlân oedd yn sych. Roedd y ddaear o'i gwmpas yn wlith i gyd.

Copyright information for CYM