Leviticus 27

Gwneud addewidion i'r  Arglwydd

Dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel:

“Os ydy rhywun wedi addo cyflwyno person i mi, dyma'r prisiau sydd i'w talu (yn arian swyddogol y cysegr):

pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed,
a tri deg darn arian am wraig;
dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed,
a deg darn arian am ferch;
pump darn arian am fachgen sydd rhwng un mis a phump oed,
a tri darn arian am ferch;
un deg pump darn arian am ddyn sydd dros chwe deg oed,
a deg darn arian am wraig.

“Os ydy'r un wnaeth yr adduned yn rhy dlawd i dalu'r pris llawn, rhaid iddo fynd â'r person sydd wedi cael ei gyflwyno i mi at yr offeiriad. Bydd yr offeiriad yn penderfynu faint mae'r sawl wnaeth yr adduned yn gallu ei fforddio.

“Os ydy rhywun wedi addo rhoi anifail i'w gyflwyno'n offrwm i'r  Arglwydd, mae'r rhodd yna'n gysegredig. 10 Dydy'r anifail ddim i gael ei gyfnewid am un arall, hyd yn oed os ydy'r anifail hwnnw'n un gwell. Os ydy e'n ceisio gwneud hynny, bydd y ddau anifail yn gysegredig. 11 Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r  Arglwydd, rhaid iddo fynd a'r anifail hwnnw i'w ddangos i'r offeiriad. 12 Bydd yr offeiriad yn penderfynu beth ydy gwerth yr anifail. 13 Wedyn os ydy'r person wnaeth addo'r anifail eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris.

14 “Os ydy rhywun yn addo rhoi ei dŷ i'w gysegru i'r  Arglwydd, mae'r offeiriad i benderfynu beth ydy gwerth y tŷ. 15 Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tŷ eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.

16 “Os ydy rhywun yn addo rhoi peth o dir y teulu i'w gysegru i'r  Arglwydd, dylid penderfynu beth ydy ei werth yn ôl faint o gnwd fyddai'n tyfu arno. Pum deg darn arian am bob cant cilogram o haidd. 17 Os ydy'r tir yn cael ei addo yn ystod blwyddyn y rhyddhau mawr, rhaid talu'r gwerth llawn. 18 Unrhyw bryd ar ôl hynny bydd yr offeiriad yn penderfynu faint yn llai sydd i'w dalu ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf. 19 Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tir eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael. 20 Ond os ydy e'n gwerthu'r tir i rywun arall, fydd e ddim yn cael ei brynu'n ôl byth. 21 Pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir wedi ei neilltuo unwaith ac am byth i'r  Arglwydd ei gadw. Bydd yn cael ei roi yng ngofal yr offeiriaid.

22 “Os ydy rhywun yn cysegru i'r  Arglwydd ddarn o dir sydd wedi ei brynu (sef tir oedd ddim yn perthyn i'w deulu), 23 bydd yr offeiriad yn ei penderfynu faint mae'n werth. Bydd yn ei brisio ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn blwyddyn y rhyddhau nesaf. Rhaid talu am y tir y diwrnod hwnnw. Mae wedi ei gysegru i'r  Arglwydd. 24 Ar flwyddyn y rhyddhau bydd y tir yn mynd yn ôl i'r person y cafodd y tir ei brynu ganddo'n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu). 25 Mae'r pris i'w dalu yn ôl mesur safonol y cysegr – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.

Gwahanol offrymau

26 “Does gan neb hawl i gyflwyno anifail cyntaf-anedig i'r  Arglwydd (buwch, dafad na gafr), achos yr  Arglwydd piau'r anifail hwnnw yn barod. 27 Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r  Arglwydd, mae ganddo hawl i'w brynu'n ôl. Rhaid iddo dalu beth ydy gwerth yr anifail, ac ychwanegu 20%. Os ydy'r anifail ddim yn cael ei brynu yn ôl, rhaid ei werth am faint bynnag mae e'n werth.

28 “Dydy rhywbeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i'r  Arglwydd (yn berson dynol, yn anifail neu'n ddarn o dir y teulu) ddim i gael ei werthu na'i brynu'n ôl. Mae popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu iddo yn gysegredig. Mae'n perthyn i'r  Arglwydd. 29 Dydy person dynol sydd wedi ei gadw o'r neilltu iddo ddim i gael ei brynu'n ôl. Rhaid i'r person hwnnw gael ei ladd.

30 “Yr  Arglwydd sydd piau un rhan o ddeg o bopeth yn y wlad – y cnydau o rawn ac o ffrwythau. Mae wedi ei gysegru i'r  Arglwydd. 31 Os ydy rhywun eisiau prynu'r un rhan o ddeg yn ôl, rhaid iddo dalu'r pris llawn amdano ac ychwanegu 20%.

32 “Mae un rhan o ddeg o'r gyr o wartheg ac o'r praidd o ddefaid a geifr i gael ei gysegru i'r  Arglwydd. Wrth iddyn nhw basio dan ffon y bugail i gael eu cyfrif, mae pob degfed anifail i gael ei gysegru i'r  Arglwydd. 33 Does gan y perchennog ddim hawl i wahanu'r anifeiliaid da oddi wrth y rhai gwan, neu i gyfnewid un o'r anifeiliaid. Os ydy e'n gwneud hynny bydd y ddau anifail wedi eu cysegru i'r  Arglwydd. Fydd dim hawl i brynu'r naill na'r llall yn ôl.”

34 Dyma'r rheolau roddodd yr  Arglwydd i bobl Israel trwy Moses ar Fynydd Sinai.

Copyright information for CYM