cgw. Eseia 14:13-15
egw. Lefiticus 18:5
fgw. Ioan 11:1

Luke 10

Iesu'n anfon y saith deg dau allan

Ar ôl hyn dyma Iesu'n penodi saith deg dau
10:1 saith deg dau: Mae rhai llawysgrifau yn dweud saith deg. Roedd traddodiad Iddewig yn dysgu fod saith deg o wledydd yn y byd. Ond mae'r LXX, sef y cyfieithiad Groeg o'r ysgrifau sanctaidd Iddewig yn rhoi “saith deg dau” yn lle “saith deg”. Drwy anfon y nifer yma o bobl allan roedd Iesu yn awgrymu fod ei neges ar gyfer pawb yn y byd i gyd.
o rai eraill a'u hanfon o'i flaen bob yn ddau i'r lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw.
Meddai wrthyn nhw, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd. Ewch! Dw i'n eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid. Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd.

“Pan ewch i mewn i gartre rhywun, gofynnwch i Dduw fendithio'r cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall. Os oes rhywun yna sy'n agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi. Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i'r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.

“Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Ewch ati i iacháu y rhai sy'n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod
10:9 ar fin dod: Neu “wedi dod”.
i deyrnasu.’
10 Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i'w strydoedd a dweud, 11 ‘Dŷn ni'n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’ 12 Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno!

Gwae'r trefi sy'n gwrthod troi at Dduw

(Mathew 11:20-24)

13 “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, trwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau. 14 Bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi! 15 A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll! c 

16 “Mae pwy bynnag sy'n gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag sy'n fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.”

17 Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhw'n dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.”

18 Atebodd Iesu, “Gwelais Satan yn syrthio fel mellten o'r awyr! 19 Dw i wedi rhoi'r awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi! 20 Ond peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”

Iesu yn diolch i Dduw ei dad

(Mathew 11:25-27; 13:16,17)

21 Bryd hynny roedd Iesu'n fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân, ac meddai “Fy Nhad. Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i'r rhai sy'n agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna sy'n dy blesio di.

22 “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.”

23 Pan oedden nhw ar eu pennau eu hunain trodd at ei ddisgyblion a dweud, “Dych chi'n cael y fath fraint o weld beth sy'n digwydd! 24 Dw i'n dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.”

Stori y Samariad caredig

25 Un tro safodd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”

26 Atebodd Iesu, “Beth mae Cyfraith Moses yn ei ddweud? Sut wyt ti'n ei deall?”

27 Meddai'r dyn: “‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl nerth ac â'th holl feddwl,’ a, ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’” d 

28 “Rwyt ti'n iawn!” meddai Iesu. “Gwna hynny a chei di fywyd.” e 

29 Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?”

30 Dyma sut atebodd Iesu: “Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho, a dyma ladron yn ymosod arno. Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc. Cafodd ei adael bron marw ar ochr y ffordd. 31 Dyma offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen. 32 A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi'r ffordd a mynd yn ei flaen. 33 Ond yna dyma Samariad yn dod i'r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e'r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto. 34 Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a'u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a'i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno. 35 Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. ‘Gofala amdano,’ meddai wrtho, ‘Ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i'n mynd heibio.’

36 “Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o'r tri fu'n gymydog i'r dyn wnaeth y lladron ymosod arno?”

37 Dyma'r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.”

Yna dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwna'r un fath.”

Yng nghartre Martha a Mair

38 Wrth i Iesu deithio yn ei flaen i Jerwsalem gyda'i ddisgyblion, daeth i bentref lle roedd gwraig o'r enw Martha yn byw. A dyma hi'n rhoi croeso iddo i'w chartre. f  39 Roedd gan Martha chwaer o'r enw Mair, ac eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd e'n ei ddweud. 40 Ond roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd, a daeth at Iesu a gofyn iddo, “Arglwydd, dwyt ti ddim yn poeni bod fy chwaer wedi gadael i mi wneud y gwaith i gyd? Dywed wrthi am ddod i helpu!”

41 “Martha annwyl,” meddai'r Arglwydd wrthi, “rwyt ti'n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd, 42 ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi.”

Copyright information for CYM