bgw. Lefiticus 14:1-32
cgw. Genesis 6:5-8
dgw. Genesis 7:6-24
egw. Genesis 18:20—19:25
fcyfeiriad at Genesis 19:26

Luke 17

Pechod, maddeuant a ffydd

(Mathew 18:6-7,21-22; Marc 9:42)

Dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Bydd bob amser bethau'n digwydd sy'n temtio pobl i bechu, ond gwae'r sawl sy'n gwneud y temtio! Byddai'n well i'r person hwnnw gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi ei rwymo am ei wddf, na gorfod wynebu canlyniadau gwneud i un o'r rhai bach yma bechu. Felly gwyliwch eich hunain! Os ydy rhywun arall sy'n credu ynof fi yn pechu, rhaid i ti ei geryddu; ond pan mae'n edifar ac yn troi cefn ar ei bechod, rhaid i ti faddau iddo. Hyd yn oed petai'n pechu yn dy erbyn saith gwaith y dydd, ond yn dod yn ôl bob tro ac yn gofyn am faddeuant, rhaid i ti faddau.”

Dyma'r apostolion yn gofyn i'r Arglwydd, “Sut allwn ni gael mwy o ffydd?”

Atebodd Iesu, “Petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y goeden forwydden yma am gael ei chodi o'r ddaear wrth ei gwreiddiau a'i thaflu i'r môr, a byddai'n gwneud hynny!

“Pan mae eich gwas yn dod i'r tŷ ar ôl bod wrthi'n aredig y tir neu'n gofalu am y defaid drwy'r dydd, ydych chi'n dweud wrtho, ‘Tyrd i eistedd i lawr yma, a bwyta’? Na, dych chi'n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’ A dych chi ddim yn diolch iddo, am fod y gwas ddim ond yn gwneud beth mae gwas i fod i'w wneud. 10 Felly chithau – ar ôl gwneud popeth dw i'n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni'n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’”

Deg dyn yn cael eu hiacháu o'r gwahanglwyf

11 Aeth Iesu ymlaen ar ei ffordd i Jerwsalem, a daeth at y ffin rhwng Galilea a Samaria. 12 Wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, dyma ddeg dyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod i'w gyfarfod. Dyma nhw'n sefyll draw 13 ac yn gweiddi'n uchel arno o bell, “Feistr! Iesu! – wnei di'n helpu ni?”

14 Pan welodd Iesu nhw, dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i ddangos eich hunain i'r offeiriaid.”
17:14 i'r offeiriaid: gw. nodyn ar 5:14.
,
b  Ac roedden nhw ar eu ffordd i wneud hynny pan wnaeth y gwahanglwyf oedd ar eu cyrff ddiflannu!

15 Dyma un ohonyn nhw'n troi'n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi'n uchel, “Clod i Dduw!” 16 Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am yr hyn roedd wedi ei wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn!)

17 Meddai Iesu, “Roeddwn i'n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae'r naw arall? 18 Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?” 19 Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”

Duw yn teyrnasu

(Mathew 24:23-28,37-41)

20 Un diwrnod, dyma'r Phariseaid yn gofyn i Iesu, “Pryd mae teyrnasiad Duw yn mynd i ddechrau?” Atebodd Iesu, “Does yna ddim arwyddion gweledig yn dangos fod teyrnasiad Duw wedi cyrraedd! 21 Fydd pobl ddim yn gallu dweud, ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ achos mae Duw yma'n teyrnasu yn eich plith chi.”

22 Roedd yn siarad am hyn gyda'i ddisgyblion wedyn, ac meddai, “Mae'r amser yn dod pan fyddwch chi'n dyheu am gael rhyw gipolwg bach o'r dyddiau pan fydda i, Mab y Dyn gyda chi eto, ond byddwch yn methu. 23 Bydd pobl yn honni fod Mab y Dyn wedi dod yn ôl; ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ byddan nhw'n ei ddweud. Ond peidiwch gwrando arnyn nhw a mynd allan i edrych amdano. 24 Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o un pen i'r llall! 25 Ond cyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i mi ddioddef yn ofnadwy a chael fy ngwrthod gan bobl y genhedlaeth bresennol.

26 “Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa c  pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. 27 Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. Wedyn daeth y llifogydd a'u dinistrio nhw i gyd! d 

28 “A'r un fath yn amser Lot. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed, yn prynu a gwerthu, yn ffermio ac yn adeiladu. 29 Ond wedyn pan adawodd Lot Sodom daeth tân a brwmstan i lawr o'r awyr a'u dinistrio nhw i gyd. e 

30 “Fel yna'n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i'r golwg. 31 Y diwrnod hwnnw fydd yna ddim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i bacio ei bethau. A ddylai neb sydd allan yn y maes feddwl mynd adre. 32 Cofiwch beth ddigwyddodd i wraig Lot! f  33 Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn. 34 Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael. 35 Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda'i gilydd; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei gadael.”
17:35 cael ei gadael: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn.36, Bydd dau ddyn yn yr un cae; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael

37 “Arglwydd, ble bydd hyn yn digwydd?” gofynnodd y disgyblion.

Atebodd Iesu, “Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw lle mae fwlturiaid wedi casglu.”

Copyright information for CYM