acyfeiriad at Deuteronomium 18:15
bcyfeiriad at Eseia 35:5-6; 26:14; 61:1
dgw. Mathew 26:7; Marc 14:3; Ioan 12:3

Luke 7

Ffydd y Swyddog Milwrol Rhufeinig

(Mathew 8:5-13; Ioan 4:43-54)

Ar ôl i Iesu orffen dweud hyn i gyd wrth y bobl, aeth i mewn i Capernaum. Roedd gwas i swyddog milwrol Rhufeinig yn sâl ac ar fin marw. Roedd gan ei feistr feddwl uchel iawn ohono. Pan glywodd y swyddog Rhufeinig am Iesu, anfonodd rai o'r arweinwyr Iddewig ato i ofyn iddo ddod i iacháu'r gwas. Dyma nhw'n dod at Iesu ac yn pledio arno i helpu'r dyn. “Mae'r dyn yma yn haeddu cael dy help di. Mae e'n caru ein pobl ni ac wedi adeiladu synagog i ni,” medden nhw. Felly dyma Iesu'n mynd gyda nhw. Roedd Iesu bron â chyrraedd y tŷ pan anfonodd y swyddog Rhufeinig rai o'i ffrindiau i ddweud wrtho: “Arglwydd, paid trafferthu dod yma, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Dyna pam wnes i ddim dod i dy gyfarfod di fy hun. Does ond rhaid i ti ddweud, a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”

Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd hyn. Trodd at y dyrfa oedd yn ei ddilyn, ac meddai, “Dw i'n dweud wrthoch chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!” 10 Dyma'r dynion oedd wedi eu hanfon ato yn mynd yn ôl i'r tŷ, a dyna lle roedd y gwas yn holliach!

Iesu'n dod â mab gwraig weddw yn ôl yn fyw

11 Yn fuan wedyn, dyma Iesu'n mynd i dref o'r enw Nain. Roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr o bobl gydag e. 12 Pan oedd ar fin cyrraedd giât y dref roedd pobl mewn angladd ar y ffordd allan. Bachgen ifanc oedd wedi marw – unig fab rhyw wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o bobl y dre yn yr angladd. 13 Pan welodd Iesu'r wraig weddw roedd yn teimlo drosti, ac meddai wrthi, “Paid crïo.”

14 Yna gwnaeth rywbeth cwbl annisgwyl – cyffwrdd yr arch! Dyma'r rhai oedd yn ei chario yn sefyll yn stond. “Fachgen ifanc,” meddai Iesu, “dw i'n dweud wrthot ti am godi!” 15 A dyma'r bachgen oedd wedi marw yn codi ar ei eistedd a dechrau siarad. A dyma Iesu'n ei roi yn ôl i'w fam.

16 Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith ni!” a  medden nhw. “Mae Duw wedi dod aton ni i helpu ei bobl.” 17 Aeth yr hanes yma am Iesu ar led fel tân gwyllt, drwy Jwdea gyfan ac ymhellach na hynny.

Iesu ac Ioan Fedyddiwr

(Mathew 11:1-19)

18 Roedd disgyblion Ioan Fedyddiwr wedi mynd i ddweud wrtho am bopeth roedd Iesu'n ei wneud. 19 Felly dyma Ioan yn anfon dau ohonyn nhw at yr Arglwydd Iesu i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”

20 Dyma nhw'n dod o hyd i Iesu a dweud wrtho, “Mae Ioan Fedyddiwr eisiau gwybod, ‘Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?’”

21 Yr adeg yna roedd Iesu wedi bod wrthi'n iacháu llawer o bobl oedd yn dioddef o afiechydon a phoenau, a dylanwad ysbrydion drwg. Roedd wedi rhoi eu golwg yn ôl i lawer o bobl ddall hefyd. 22 Felly ei ateb iddyn nhw oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi ei weld a'i glywed: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd! b  23 Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.”

24 Ar ôl i negeswyr Ioan fynd, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt? 25 Na? Beth roeddech chi'n ei ddisgwyl? Dyn yn gwisgo dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw! 26 Felly ai proffwyd aethoch chi allan i'w weld? Ie! A dw i'n dweud wrthoch chi ei fod e'n fwy na phroffwyd. 27 Dyma'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano:

‘Edrych! – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di,
i baratoi'r ffordd i ti.’ c 

28 Dw i'n dweud wrthoch chi, mae Ioan yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ond mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas Dduw yn fwy nag e.”

29 (Roedd y bobl gyffredin glywodd neges Ioan, hyd yn oed y dynion sy'n casglu trethi i Rufain, yn cydnabod mai ffordd Duw oedd yn iawn – dyna pam gawson nhw eu bedyddio gan Ioan. 30 Ond roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwrthod gwneud beth oedd Duw eisiau, a doedden nhw ddim wedi cael eu bedyddio gan Ioan.)

31 “Sut mae disgrifio'r dynion yma?” meddai Iesu, “I beth maen nhw'n debyg? 32 Maen nhw fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn:

‘Roedden ni'n chwarae priodas,
ond wnaethoch chi ddim dawnsio;
Roedden ni'n chwarae angladd,
Ond wnaethoch chi ddim wylo.’

33 Am fod Ioan Fedyddiwr ddim yn bwyta bara ac yfed gwin, roeddech chi'n dweud, ‘Mae cythraul ynddo.’ 34 Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed fel pawb arall, a dyma chi'n dweud, ‘y bolgi! Meddwyn yn diota a stwffio'i hun! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid ydy e!’ 35 Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson fydd pobl. Dych chi mor anghyson, mae'ch ffolineb chi'n amlwg!”

Gwraig bechadurus yn eneinio Iesu

36 Roedd un o'r Phariseaid wedi gwahodd Iesu i swper, felly aeth Iesu i'w dŷ ac eistedd wrth y bwrdd. 37 Dyma wraig o'r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre'r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr. d  38 Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crïo. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â'i gwallt a'u cusanu ac yna tywallt y persawr arnyn nhw.

39 Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai'r dyn yma yn broffwyd byddai'n gwybod pa fath o wraig sy'n ei gyffwrdd – dydy hi'n ddim byd ond pechadures!”

40 Ond dyma Iesu'n dweud wrtho, “Simon, dw i eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.” “Beth athro?” meddai.

41 “Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall. 42 Ond pan oedd y naill a'r llall yn methu ei dalu'n ôl, dyma'r benthyciwr yn canslo dyled y ddau! Felly, pa un o'r ddau wyt ti'n meddwl fydd yn ei garu fwyaf?”

43 “Mae'n debyg mai'r un gafodd y ddyled fwyaf wedi ei chanslo,” meddai Simon.

“Rwyt ti'n iawn,” meddai Iesu.

44 Yna dyma Iesu'n troi at y wraig, ac yn dweud wrth Simon, “Edrych ar y wraig yma. Pan ddes i mewn i dy dŷ di, ches i ddim dŵr i olchi fy nhraed. Ond mae hon wedi gwlychu fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt. 45 Wnest ti ddim fy nghyfarch i â chusan, ond dydy hon ddim wedi stopio cusanu fy nhraed i ers i mi gyrraedd. 46 Wnest ti ddim rhoi croeso i mi drwy roi olew ar fy mhen, ond mae hon wedi tywallt persawr ar fy nhraed. 47 Felly dw i'n dweud wrthot ti, mae pob un o'i phechodau hi wedi eu maddau – ac mae hi wedi dangos cariad mawr ata i. Ond bach iawn ydy cariad y sawl sydd wedi cael maddeuant am bethau bach.”

48 Wedyn dyma Iesu'n dweud wrth y wraig ei hun, “Mae dy bechodau wedi eu maddau.”

49 A dyma'r gwesteion eraill yn dechrau siarad ymhlith ei gilydd, “Pwy ydy hwn, yn meddwl y gall faddau pechodau?”

50 Dyma Iesu'n dweud wrth y wraig, “Am i ti gredu rwyt wedi dy achub;
7:50 achub: Neu “iacháu”.
dos adre! Bendith Duw arnat ti!”

Copyright information for CYM