Malachi 2

Y proffwyd yn rhybuddio'r offeiriaid

Nawr, chi offeiriaid, dyma orchymyn i chi:
“Os wnewch chi ddim gwrando
a phenderfynu dangos parch tuag ata i,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus—
“bydda i'n dod â'r felltith arnoch chi,
ac yn troi eich bendithion chi yn felltith.
(Yn wir, dw i wedi gwneud hynny,
am eich bod chi ddim o ddifrif.)
Bydda i'n ceryddu eich disgynyddion,
a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion
– perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol,
a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw!
Byddwch yn gwybod wedyn mai fi
roddodd y gorchymyn hwn i chi,
fod fy ymrwymiad gyda Lefi i'w gadw,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.
“Roeddwn wedi ymrwymo i roi bywyd a heddwch iddo.
Dyna rois i iddo, ac roedd e i fod i'm parchu
ac ymostwng o'm blaen i.
Roedd i ddysgu'r gwir,
a doedd e ddim i dwyllo;
Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi,
ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg.
Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir,
a'r hyn mae'n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl;
gan ei fod yn negesydd i'r  Arglwydd holl-bwerus.
Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn;
dych chi wedi dysgu pethau
sydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu.
Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.
“Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n rai
sy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb,
am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi,
a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.”

Priodasau cymysg ac ysgariad

10 Onid un tad sydd gynnon ni i gyd?
Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni?
Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilydd
ac yn torri ymrwymiad ein tadau?
11 Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon,
ac wedi gwneud pethau ffiaidd
yn Israel a Jerwsalem.
Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaidd
mae'r  Arglwydd yn ei garu,
drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill.
12 Boed i'r  Arglwydd daflu allan o bebyll Jacob
bob un sy'n gwneud y fath beth,
ac yna'n cyflwyno offrwm i'r  Arglwydd holl-bwerus.

13 A dyma beth arall dych chi'n ei wneud:

Dych chi'n gorchuddio allor yr  Arglwydd
gyda'ch dagrau, wrth wylo a chwyno
am nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy,
ac yn gwrthod derbyn eich rhodd.
14 “Ond pam?” meddech chi.
Am fod yr  Arglwydd yn dyst
i'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist.
Ti wedi bod yn anffyddlon iddi
er mai hi ydy dy gymar di,
a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas.
15 Oni wnaeth Duw chi'n un?
Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd.
A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod?
Onid plant duwiol?
2:15 Oni wnaeth … duwiol Un cyfieithiad posib. Hebraeg yn anodd iawn.

Felly gwyliwch eich hunain!
Ddylai neb fod yn anffyddlon
i'r wraig briododd pan yn ifanc.
16 “Dw i'n casáu ysgariad,”

—meddai'r  Arglwydd, Duw Israel—
“a'r rhai sy'n euog o drais,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.
Felly gwyliwch eich hunain!
Ddylai neb fod yn anffyddlon.

Bydd Duw yn barnu

17 Dych chi wedi blino'r  Arglwydd â'ch holl siarad.
“Sut ydyn ni wedi ei flino fe?” meddech chi,
Trwy ddweud, “Mae pawb sy'n gwneud drwg
yn dda yng ngolwg yr  Arglwydd
– mae wrth ei fodd gyda nhw!”
neu trwy ofyn, “Ble mae'r Duw cyfiawn yma?”
Copyright information for CYM