Malachi 3

“Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd,
a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i.
Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisio
yn dod i'w deml.
Ydy, mae angel yr ymrwymiad,
dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.
Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw?
Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg?
Achos mae e fel tân sy'n toddi metel
neu sebon y golchwr.
Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian;
ac yn puro disgynyddion Lefi –
bydd yn eu gloywi fel aur ac arian,
er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r  Arglwydd.
Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalem
yn plesio'r  Arglwydd
fel roedden nhw ers talwm,
yn yr hen ddyddiau.
“Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu;
dw i'n barod i dystio yn erbyn
pawb sydd ddim yn fy mharchu –
y rhai sy'n dewino ac yn godinebu,
sy'n dweud celwydd ar lw,
sy'n gormesu gweithwyr (trwy atal eu cyflog),
yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad,
ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.
“Ie, fi ydy'r  Arglwydd, a dw i ddim wedi newid,
a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!”

Rhaid troi yn ôl at Dduw

“Ers canrifoedd
3:7 canrifoedd Hebraeg, “dyddiau eich hynafiaid”
dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau,
a ddim yn eu cadw.
Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.
“Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi.
“Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw?
Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.”
“Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi.
“Trwy gadw'r degymau a'r offrymau.
Dych chi'n diodde melltith,
am eich bod chi'n dwyn oddi arna i
– ie, y cwbl lot ohonoch chi!
10 Dewch â'r degwm llawn i'r stordy,
fel bod yna fwyd yn fy nheml.
Ie, rhowch fi ar brawf,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus—
“a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoedd
ac yn tywallt bendith arnoch chi;
fyddwch chi'n brin o ddim byd!
11 Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid,
rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir;
fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.
12 “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweud
eich bod wedi eich bendithio,
am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.

Bydd Duw yn bendithio'r rhai ffyddlon

13 “Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus.
“Beth ydyn ni wedi ei ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi.
14 “Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw.
Beth ydyn ni wedi ei ennill o wrando arno
a mynd o gwmpas yn edrych yn drist
o flaen yr  Arglwydd holl-bwerus?
15 Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! –
maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo;
maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’”

16 Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r  Arglwydd yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr  Arglwydd nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r  Arglwydd ac yn meddwl yn uchel ohono.

17 “Nhw fydd fy mhobl i,”

—meddai'r  Arglwydd holl-bwerus—
“fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod.
Bydda i'n gofalu amdanyn nhw
fel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo.
18 Byddwch chi'n gweld y gwahaniaeth
rhwng yr un sydd wedi byw'n iawn a'r rhai drwg,
rhwng y sawl sy'n gwasanaethu Duw
a'r rhai sydd ddim.
Copyright information for CYM