Mark 6

Dim parch i broffwyd

(Mathew 13:53-58; Luc 4:16-30)

Gadawodd Iesu'r ardal honno a mynd yn ôl gyda'i ddisgyblion i Nasareth, lle cafodd ei fagu. Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu'r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e'r holl ddoethineb, a'r gallu i wneud gwyrthiau? Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff,
6:3 Joseff: Groeg, “Joses”, ffurf arall ar yr enw (gw. Mathew 13:55)
Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn.

Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu – gan ei bobl ei hun a'i deulu ei hun!” Felly allai Iesu ddim gwneud rhyw lawer o wyrthiau yno, dim ond gosod ei ddwylo ar ychydig bobl oedd yn sâl iawn i'w hiacháu nhw. Roedd yn rhyfeddu eu bod nhw mor amharod i gredu.

Iesu'n anfon allan y deuddeg

(Mathew 10:5-15; Luc 9:1-6)

Aeth Iesu ar daith o gwmpas y pentrefi yn dysgu'r bobl.
Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a'u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg.

Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân. Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr. 10 Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno. 11 Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”

12 Felly i ffwrdd â nhw i bregethu fod rhaid i bobl droi at Dduw a newid eu ffyrdd. 13 Roedden nhw'n bwrw allan llawer o gythreuliaid ac yn eneinio llawer o bobl ag olew a'u hiacháu nhw.

Dienyddio Ioan Fedyddiwr

(Mathew 14:1-12; Luc 9:7-9)

14 Roedd y Brenin Herod
6:14 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr.
wedi clywed am beth oedd yn digwydd, am fod pawb yn gwybod am Iesu. Roedd rhai yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw. Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.”
15 Roedd rhai yn dweud, “Elias ydy e”, ac eraill yn meddwl ei fod yn broffwyd, fel un o broffwydi mawr y gorffennol.

16 Pan glywodd Herod beth oedd Iesu'n ei wneud, dwedodd ar unwaith “Ioan ydy e! Torrais ei ben i ffwrdd ac mae wedi dod yn ôl yn fyw!”

17 Herod oedd wedi gorchymyn i Ioan Fedyddiwr gael ei arestio a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias. Er ei bod yn wraig i'w frawd Philip, roedd Herod wedi ei phriodi. 18 Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.” 19 Felly roedd Herodias yn dal dig yn erbyn Ioan, ac eisiau ei ladd. Ond doedd hi ddim yn gallu 20 am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno.

21 Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi eu gwahodd i'r parti. 22 Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a'i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i'n ei roi i ti.” 23 Rhoddodd ei air iddi ar lw, “Cei di beth bynnag rwyt ti eisiau, hyd yn oed hanner y deyrnas!”

24 Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi.

“Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam wrthi.

25 Felly dyma hi yn brysio'n ôl i mewn at y brenin, gyda'i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”

26 Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl – roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo'r wyneb i'w gwrthod hi. 27 Felly dyma fe'n anfon un o'i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â'i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i'r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd. 28 Daeth yn ei ôl gyda'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch, ac aeth hithau ag e i'w mam. 29 Pan glywodd disgyblion Ioan beth oedd wedi digwydd dyma nhw'n cymryd y corff a'i roi mewn bedd.

Iesu'n bwydo'r pum mil

(Mathew 14:13-21; Luc 9:10-17; Ioan 6:1-14)

30 Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi ei wneud a'i ddysgu. 31 Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu'n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”

32 I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau eu hunain. 33 Ond roedd llawer o bobl wedi eu gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o'r holl drefi a chyrraedd yno o'u blaenau. 34 Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ennyn tosturi ynddo, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.

35 Roedd hi'n mynd yn hwyr, felly dyma'i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial, ac mae'n mynd yn hwyr. 36 Anfon y bobl i ffwrdd i'r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i'w fwyta.”

37 Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”

38 “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw'n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach
6:38 torth fach: Torth fach gron fflat, mae'n debyg.
a dau bysgodyn!”

39 Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am wneud i'r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt. 40 Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant. 41 Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn. 42 Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, 43 a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben. 44 Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!

Iesu'n cerdded ar ddŵr

(Mathew 14:22-33; Ioan 6:15-21)

45 Yn syth wedyn dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen i Bethsaida, tra roedd yn anfon y dyrfa adre. 46 Ar ôl ffarwelio gyda nhw, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo.

47 Roedd hi'n nosi, a'r cwch ar ganol y llyn, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. 48 Gwelodd fod y disgyblion yn cael trafferthion wrth geisio rhwyfo yn erbyn y gwynt. Yna rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Roedd fel petai'n mynd heibio iddyn nhw, 49 a dyma nhw'n ei weld yn cerdded ar y llyn. Roedden nhw'n meddwl eu bod yn gweld ysbryd, a dyma nhw'n gweiddi mewn ofn. 50 Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” 51 Yna, wrth iddo ddringo i mewn i'r cwch, dyma'r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc. 52 Doedden nhw ddim wedi deall arwyddocâd y torthau o fara; roedden nhw mor ystyfnig.

Iesu'n iacháu pobl yn Genesaret

(Mathew 14:34-36)

53 Ar ôl croesi'r llyn dyma nhw'n glanio yn Genesaret a chlymu'r cwch. 54 Dyma bobl yn nabod Iesu yr eiliad ddaethon nhw o'r cwch. 55 Dim ots lle roedd yn mynd, roedd pobl yn rhuthro drwy'r ardal i gyd yn cario pobl oedd yn sâl ar fatresi a dod â nhw ato. 56 Dyna oedd yn digwydd yn y pentrefi, yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n gosod y cleifion ar sgwâr y farchnad ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.

Copyright information for CYM