a Eseia 6:9,10 (LXX)

Matthew 13

Stori'r ffermwr yn hau

(Marc 4:1-12; Luc 8:4-10)

Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea. Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta. Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn, ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain, ond tyfodd y drain a thagu'r planhigion. Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.”

“Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”

10 Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti'n dweud y straeon yma wrthyn nhw?”

11 Dyma oedd ei ateb: “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim. 12 Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim – bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw. 13 Dyna pam dw i'n defnyddio straeon i siarad â nhw. Er eu bod yn edrych, dŷn nhw ddim yn gweld; er eu bod yn gwrando, dŷn nhw ddim yn clywed nac yn deall. 14 Ynddyn nhw mae'r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir:

‘Byddwch chi'n gwrando'n astud, ond byth yn deall;
Byddwch chi'n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad.
15 Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth –
maen nhw'n fyddar,
ac wedi cau eu llygaid.
Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid,
yn clywed â'u clustiau,
yn deall go iawn, ac yn troi,
a byddwn i'n eu hiacháu nhw’. a 

16 Ond dych chi'n cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl! 17 Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.

Iesu'n esbonio stori'r ffermwr yn hau

(Marc 4:13-20; Luc 8:11-15)

18 “Felly dyma beth ydy ystyr stori'r ffermwr yn hau: 19 Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, mae'r Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dyna'r had ddisgynnodd ar y llwybr. 20 Yr had sy'n syrthio ar dir creigiog ydy'r sawl sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau. 21 Ond dydy'r neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, mae'n troi cefn yn ddigon sydyn! 22 Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy'r sawl sy'n clywed y neges, ond mae'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn ei fywyd. 23 Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r sawl sy'n clywed y neges ac yn ei deall. Mae'r effaith fel cnwd anferth – can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.”

Stori'r chwyn

24 Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae. 25 Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith. 26 Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i'r golwg hefyd.

27 “Daeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae'r holl chwyn yma wedi dod?’

28 “‘Rhywun sy'n fy nghasáu i sy'n gyfrifol am hyn’ meddai.

“‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi'r chwyn?’ meddai ei weision.

29 “‘Na,’ meddai'r dyn, ‘Rhag ofn i chi godi peth o'r gwenith wrth dynnu'r chwyn. 30 Gadewch i'r gwenith a'r chwyn dyfu gyda'i gilydd. Wedyn pan ddaw'r cynhaeaf bydda i'n dweud wrth y rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, a'u rhwymo'n fwndeli i'w llosgi; wedyn cewch gasglu'r gwenith a'i roi yn fy ysgubor.’”

Stori'r hedyn mwstard a stori'r burum

(Marc 4:30-34; Luc 13:18-21)

31 Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae. 32 Er mai dyma'r hedyn lleia un, mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae'n tyfu'n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!”

33 Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd a'i gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”

Iesu'n adrodd straeon

(Marc 4:33-34)

34 Roedd Iesu'n dweud popeth wrth y dyrfa drwy adrodd straeon; doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. 35 Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd
13:35 proffwyd: proffwyd Eseia yn rhai llawysgrifau.
yn dod yn wir:

“Siaradaf drwy adrodd straeon,
Dwedaf bethau sy'n ddirgelwch ers i'r byd gael ei greu.” c 

Esbonio stori'r chwyn

36 Gadawodd Iesu y dyrfa a mynd i mewn i'r tŷ. Aeth ei ddisgyblion i mewn ato a gofyn iddo, “Wnei di esbonio'r stori am y chwyn i ni?”

37 Atebodd Iesu, “Fi, Mab y Dyn, ydy'r un sy'n hau yr had da. 38 Y byd ydy'r cae, ac mae'r hadau da yn cynrychioli'r bobl sy'n perthyn i'r deyrnas. Y bobl sy'n perthyn i'r un drwg ydy'r chwyn, 39 a'r gelyn sy'n eu hau nhw ydy'r diafol. Diwedd y byd ydy'r cynhaeaf, a'r angylion ydy'r rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf.

40 “Dyma fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd – fel y chwyn sy'n cael eu casglu i'w llosgi, 41 bydd Mab y Dyn yn anfon yr angylion allan, a byddan nhw'n chwynnu o blith y bobl sy'n perthyn i'w deyrnas bawb sy'n gwneud i bobl bechu, a phawb sy'n gwneud drwg. 42 Bydd yr angylion yn eu taflu nhw i'r ffwrnais, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith. 43 Wedyn bydd y bobl wnaeth beth sy'n iawn yn disgleirio fel yr haul pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu. Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu.

Stori'r trysor cudd a stori'r perl gwerthfawr

44 “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi ei guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna'n ei guddio eto. Wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu'r cae hwnnw.

45 “Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr. 46 Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae'n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu'r un perl hwnnw.

Stori'r rhwyd

47 “Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd sy'n cael ei gollwng i'r llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi. 48 Mae'r pysgotwyr yn llusgo'r rhwyd lawn i'r lan. Wedyn mae'r pysgod da yn cael eu cadw a'u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd. 49 Dyna fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd. Bydd yr angylion yn dod i gasglu'r bobl ddrwg o blith y bobl wnaeth beth sy'n iawn, 50 ac yn eu taflu nhw i'r ffwrnais dân, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.

51 “Ydych chi wedi deall hyn i gyd?” gofynnodd Iesu.

“Ydyn,” medden nhw.

52 Yna meddai wrthyn nhw, “Felly mae pob athro yn yr ysgrifau sanctaidd sydd wedi ymostwng i deyrnasiad yr Un nefol fel perchennog tir sy'n dod â thrysorau newydd a hen allan o'i ystordy.”

Pobl Nasareth yn troi yn ei erbyn

(Marc 6:1-6; Luc 4:16-30)

53 Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y straeon yma, aeth yn ôl 54 i Nasareth lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysgu'r bobl yn eu synagog, ac roedden nhw'n rhyfeddu ato. “Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, a'r gallu yma i wneud gwyrthiau?” medden nhw. 55 “Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr? 56 Mae ei chwiorydd i gyd yn byw yma! Felly, ble cafodd e hyn i gyd?” 57 Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn yr ardal lle cafodd ei fagu, a chan ei deulu ei hun!”

58 Wnaeth Iesu ddim llawer o wyrthiau yno am eu bod nhw ddim yn credu.

Copyright information for CYM