acyfeiriad at Malachi 4:5
ccyfeiriad at Exodus 30:13-15; 38:26

Matthew 17

Y Gweddnewidiad

(Marc 9:2-13; Luc 9:28-36)

Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau. Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu.

Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, mae'n dda cael bod yma. Os wyt ti eisiau, gwna i godi tair lloches yma – un i ti, un i Moses, ac un i Elias.”

Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr. Gwrandwch arno!”

Pan glywodd y disgyblion y llais roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n syrthio ar eu hwynebau ar lawr. Ond dyma Iesu'n mynd atyn nhw a'u cyffwrdd, a dweud wrthyn nhw, “Codwch, peidiwch bod ag ofn.” Pan wnaethon nhw edrych i fyny doedd neb i'w weld yno ond Iesu.

Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd, dyma Iesu'n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi ei weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.”

10 Dyma'r disgyblion yn gofyn iddo, “Felly pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?” a 

11 Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod reit siŵr, a bydd yn rhoi trefn ar bopeth. 12 Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod eisoes, ond wnaethon nhw mo'i nabod, ac maen nhw wedi ei gam-drin. A bydda i, Mab y Dyn, yn dioddef yr un fath ganddyn nhw.” 13 Dyna pryd deallodd y disgyblion ei fod yn siarad am Ioan Fedyddiwr.

Iacháu'r bachgen yng ngafael cythraul

(Marc 9:14-29; Luc 9:37-43a)

14 Pan ddaethon nhw at y dyrfa, dyma ddyn yn dod at Iesu a phenlinio o'i flaen. 15 “Arglwydd, helpa fy mab i,” meddai. “Mae'n cael ffitiau ac yn dioddef yn ofnadwy. Mae'n syrthio yn aml i ganol y tân, neu i ddŵr. 16 Des i ag e at dy ddisgyblion di, ond doedden nhw ddim yn gallu ei iacháu.”

17 “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Tyrd â'r bachgen yma ata i.” 18 Dyma Iesu'n ceryddu'r cythraul, a daeth allan o'r bachgen, a chafodd ei iacháu y foment honno.

19 Dyma'r disgyblion yn gofyn yn breifat i Iesu, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?”

20 “Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.
17:20 i chi: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn 21 Ond dim ond trwy weddi ac ympryd mae ysbrydion drwg fel yna'n dod allan.

Iesu'n dweud eto ei fod yn mynd i farw a dod yn ôl yn fyw

(Marc 9:30-32; Luc 9:43b-45)

22 Pan ddaethon nhw at ei gilydd yn Galilea, dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu i afael 23 pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Roedd y disgyblion yn ofnadwy o drist.

Treth y Deml

24 Pan gyrhaeddodd Iesu a'i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu'r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy dy athro di'n talu treth y deml?” c 

25 “Ydy, mae e” atebodd Pedr.

Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu'n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti'n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi – gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?”

26 “Gan bobl eraill,” meddai Pedr. “Felly does dim rhaid i'r plant dalu,” meddai Iesu wrtho. 27 “Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i'r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i'w dalu.
17:27 ddarn arian fydd yn ddigon i'w dalu: Groeg,  stater. Roedd  stater yn werth pedair drachma neu un sicl.
Defnyddia hwnnw i dalu'r dreth drosto i a thithau.”

Copyright information for CYM