Matthew 27

Jwdas yn cyflawni hunanladdiad

(Marc 15:1; Luc 23:1,2; Ioan 18:28-32; Actau 1:18-19)

Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r holl brif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Felly, dyma nhw'n ei rwymo a'i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr.

Marwolaeth Jwdas

(Actau 1:18-19)

Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu'n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â'r tri deg darn arian yn ôl i'r prif offeiriaid a'r arweinwyr. “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.”

“Does dim ots gynnon ni.” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.”

Felly dyma Jwdas yn taflu'r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun.

Dyma'r prif offeiriaid yn codi'r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi'r arian yma yn nhrysorfa'r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.” Felly dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio'r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon. A dyna pam mai ‛Maes y Gwaed‛ ydy'r enw arno hyd heddiw. A dyna sut daeth geiriau'r proffwyd Jeremeia yn wir:

“Dyma nhw'n cymryd y tri deg darn arian
(dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel),
10 a phrynu maes y crochenydd,
fel yr oedd yr Arglwydd wedi dweud.” a 

Iesu o flaen Peilat

(Marc 15:2-15; Luc 23:3-5,13-26; Ioan 18:33—9:16)

11 Yn y cyfamser, roedd Iesu'n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”

“Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.

12 Ond pan oedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu'n gwrthod ateb. 13 A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?” 14 Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad! Doedd y peth yn gwneud dim sens i'r llywodraethwr.

15 Adeg y Pasg roedd hi'n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor – un roedd y dyrfa'n ei ddewis. 16 Roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano – dyn o'r enw Barabbas. 17 Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o'r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas, neu Iesu, yr un sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?” 18 (Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)

19 Roedd Peilat yno'n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae'r dyn yna'n ddieuog – paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.”

20 Ond roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio'r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu'n cael ei ddienyddio.

21 Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o'r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?”

Dyma nhw'n ateb, “Barabbas!”

22 “Felly, beth dw i i'w wneud gyda'r Iesu yma, sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?”

Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!”

23 “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi ei wneud o'i le?”

Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”

24 Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa'n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy'n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy'n gyfrifol!”

25 Dyma'r bobl yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, ni fydd yn gyfrifol am y peth – ni a'n plant!”

26 Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.

Y milwyr yn gwatwar Iesu

(Marc 15:16-21; Ioan 19:2,3)

27 Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw'r holl fintai i gasglu o'i gwmpas. 28 Dyma nhw'n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano, 29 plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o'i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw. 30 Roedden nhw'n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda'r wialen. 31 Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn oddi arno, a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.

Y Croeshoelio

(Marc 15:22-32; Luc 23:27-43; Ioan 19:17-27)

32 Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o'r enw Simon i'w cyfarfod, a dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu. 33 Ar ôl cyrraedd y lle sy'n cael ei alw yn Golgotha (sef ‛Lle y Benglog‛), 34 dyma nhw'n cynnig diod o win wedi ei gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed. b  35 Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad. c  36 Wedyn dyma nhw'n eistedd i lawr i gadw golwg arno. 37 Roedd arwydd uwch ei ben yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn: DYMA IESU – BRENIN YR IDDEWON. 38 Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo. 39 Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, d  40 “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun! Tyrd i lawr o'r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!”

41 Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. 42 “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am i ni ei weld yn dod i lawr oddi ar y groes yna, os mai Brenin Israel ydy e! Gwnawn ni gredu wedyn! 43 Mae'n dweud ei fod e'n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e'n dweud ei fod yn Fab Duw?” 44 Roedd hyd yn oed y lladron gafodd eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau a'i enllibio.

Iesu'n marw

(Marc 15:33-41; Luc 23:44-49; Ioan 19:28-30)

45 O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd. 46 Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel,  “Eli, Eli, lama sabachthani?” – sy'n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” e 

47 Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”

48 Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed. f 

49 Ond dyma'r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i'w achub.”

50 Yna ar ôl gweiddi'n uchel eto, dyma Iesu'n marw.

51 Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti, 52 a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol 53 allan o'u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd llawer iawn o bobl nhw.)

54 Dyma'r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a'i filwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu. Gwaeddodd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”

55 Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno'i angen. 56 Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago a Ioan, sef gwraig Sebedeus hefyd.

Claddu Iesu

(Marc 15:42-47; Luc 23:50-56; Ioan 19:38-42)

57 Ychydig cyn iddi nosi, dyma ddyn o'r enw Joseff (dyn cyfoethog o Arimathea oedd yn un o ddilynwyr Iesu) yn mynd at Peilat. 58 Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu, a dyma Peilat yn gorchymyn rhoi'r corff iddo. 59 Dyma Joseff yn cymryd y corff a'i lapio mewn lliain glân. 60 Yna fe'i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi ei naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd. 61 Roedd Mair Magdalen a'r Fair arall wedi bod yno yn eistedd gyferbyn â'r bedd yn gwylio'r cwbl.

Milwyr yn gwarchod y bedd

62 Y diwrnod wedyn, hynny ydy y dydd Saboth, dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn mynd i weld Peilat. 63 “Syr,” medden nhw wrtho, “un peth ddwedodd y twyllwr yna pan oedd e'n dal yn fyw oedd, ‘Bydda i'n dod yn ôl yn fyw ymhen deuddydd’. g  64 Felly wnei di orchymyn i'r bedd gael ei wneud yn ddiogel hyd drennydd. Bydd hynny'n rhwystro'i ddisgyblion rhag dod a dwyn y corff, a mynd o gwmpas wedyn yn dweud wrth bobl ei fod wedi dod yn ôl yn fyw. Byddai'r twyll yna'n waeth na'r twyll cyntaf!”

65 “Cymerwch filwyr,” meddai Peilat, “ac ewch i wneud y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.” 66 Felly dyma nhw'n mynd a gosod sêl ar y garreg oedd dros geg y bedd, a rhoi milwyr ar ddyletswydd i'w gwarchod.

Copyright information for CYM