Matthew 8

Dyn yn dioddef o'r gwahanglwyf

(Marc 1:40-45; Luc 5:12-16)

Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd. Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o'i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”

Dyma Iesu'n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A'r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach!

A dyma Iesu'n dweud wrtho, “Gwna'n siŵr dy fod ti'n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad, a chyflwyno'r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
8:4 Dos i ddangos … iacháu: Os oedd rhywun yn cael ei iacháu o glefyd heintus ar y croen roedd rhaid i offeiriad ei archwilio, a chyhoeddi fod y person yn iach. Wedyn roedd rhaid cyflwyno offrwm o ddau oen gwryw ac un oen benyw a blawd wedi ei gymysgu gydag olew olewydd.
b 

Ffydd y Swyddog Milwrol Rhufeinig

(Luc 7:1-10; Ioan 4:43-54)

Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i'w helpu. “Arglwydd,” meddai, “mae ngwas i gartre, yn gorwedd yn ei wely wedi ei barlysu. Mae'n dioddef yn ofnadwy.”

Atebodd Iesu, “Dof i'w iacháu.”

Ond meddai'r swyddog wrtho, “Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”

10 Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna! 11 Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o'r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu. 12 Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i'r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”

13 Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei yr hyn wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna'n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.

Iesu'n iacháu llawer

(Marc 1:29-34; Luc 4:38-41)

14 Dyma Iesu'n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel. 15 Cyffyrddodd Iesu ei llaw hi a diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddo.

16 Pan oedd hi'n dechrau nosi dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl. 17 Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:

“Cymerodd ein gwendidau arno'i hun,
a chario ein hafiechydon i ffwrdd.” c 

Y gost o ddilyn Iesu

(Luc 9:57-62)

18 Pan welodd Iesu'r tyrfaoedd o bobl oedd o'i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw'r llyn. 19 Yna dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd.”

20 Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”

21 Dyma un arall o'i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”

22 Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw.”

Iesu'n tawelu'r storm

(Marc 4:35-41; Luc 8:22-25)

23 Felly i ffwrdd â Iesu i'r cwch, a'i ddisgyblion ar ei ôl. 24 Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu'n drwm drwy'r cwbl! 25 Dyma'r disgyblion yn mynd ato mewn panig a'i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni'n mynd i foddi!”

26 “Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae'ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.

27 Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth ydyn ni i'w wneud o'r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r tonnau yn ufuddhau iddo!”

Iacháu dau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid

(Marc 5:1-20; Luc 8:26-39)

28 Ar ôl iddo groesi'r llyn i ardal y Gadareniaid,
8:28 Gadareniaid: Neu, Gergeseniaid yn rhai llawysgrifau. Geraseniaid yn eraill.
dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio'r ffordd honno.
29 Dyma nhw'n gweiddi'n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i'n poenydio ni cyn i'r amser pan fydd hynny'n digwydd ddod?”

30 Roedd cenfaint fawr o foch yn pori draw oddi wrthyn nhw, 31 a dyma'r cythreuliaid yn pledio arno, “Gad i ni fynd i mewn i'r genfaint o foch acw os wyt ti'n mynd i'n bwrw ni allan.”

32 “Ewch!” meddai Iesu. Felly allan â nhw o'r dyn ac i mewn i'r moch. A'r peth nesa, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth a boddi yn y llyn. 33 Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd i'r dre i adrodd y stori, a dweud am bopeth oedd wedi digwydd i'r dynion oedd wedi bod yng ngafael cythreuliaid. 34 Yna dyma pawb yn dod allan o'r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw'n pwyso arno i adael eu hardal.

Copyright information for CYM