Micah 2
Bydd Duw yn cosbi'r rhai sy'n sathru'r tlawd
1 Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygioni
a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio. a
Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg –
maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau.
2 Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau,
ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl.
Maen nhw'n cipio cartrefi trwy dwyll a thrais
ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.
3 Felly, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma.
Fydd dim modd i chi ddianc!
Dim mwy o swancio i chi! –
mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!
4 Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi
drwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd –
‘Mae ar ben arnon ni!
Mae ein tir yn cael ei werthu!
Mae Duw wedi cymryd y cwbl,
a rhoi ein tir i fradwyr anffyddlon!’”
5 Felly fydd neb yn mesur y tir eto
i chi gael siâr ohono
gyda phobl yr Arglwydd.
6 “Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig.
“Ddylai neb siarad fel yna!
Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”
7 Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? –
“Dydy'r Arglwydd ddim yn colli ei dymer.
Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!”
“Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwydd
i'r rhai sy'n byw yn iawn.
8 Ond yn ddiweddar mae fy mhobl
wedi codi yn fy erbyn fel gelyn.
Dych chi'n dwyn y fantell a'r crys
oddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibio
fel milwyr yn dod adre o ryfel.
9 Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd,
a dwyn eu heiddo
▼
▼
2:9 eu heiddo Hebraeg, “fy ngogoniant”. Mae'n cyfeirio at yr etifeddiaeth roedd yr
Arglwydd wedi ei roi i'w bobl.
oddi ar eu plant am byth.
10 Felly symudwch! I ffwrdd â chi!
Does dim lle i chi orffwys yma!
Dych chi wedi llygru'r lle,
ac wedi ei ddifetha'n llwyr!
11 Petai rhywun yn dod heibio
yn malu awyr a thwyllo,
‘Dw i'n addo y cewch chi joio
digonedd o win a chwrw!’ –
byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!
Nodyn o obaith
12 Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob.
Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israel
▼
▼
2:12 Israel Yma mae ‛Jacob‛ ac ‛Israel‛ yn cyfeirio at Jwda, teyrnas y de.
at ei gilydd fel defaid mewn corlan.
Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa
yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.
13 Bydd yr un sy'n torri trwodd
yn eu harwain nhw allan i ryddid.
Byddan nhw'n mynd allan drwy'r giatiau
a gadael gyda'u brenin ar y blaen.
Yr Arglwydd ei hun fydd yn eu harwain!”
Copyright information for
CYM