Nahum 1
Yr Arglwydd yn dial ar Ninefe (Prifddinas Asyria)
1 Neges am ddinas Ninefe
▼
▼
1:1 dinas Ninefe roedd safle Ninefe heb fod yn bell o Mosul, gogledd Irac heddiw
: Cofnod o weledigaeth Nahum
▼
▼
1:1 Nahum Ystyr yr enw ydy "llawn cysur".
o Elcosh. 2 Mae'r Arglwydd yn Dduw eiddigeddus sy'n dial;
Mae'r Arglwydd yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig.
Mae'r Arglwydd yn dial ar ei elynion,
ac yn wyllt gyda'i wrthwynebwyr.
3 Mae'r Arglwydd yn amyneddgar
ac yn gryf –
ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb. c
Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm,
ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed.
4 Mae'n gweiddi ar y môr a'i sychu,
ac yn sychu'r afonydd i gyd.
Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo,
ac mae blodau Libanus
▼
▼
1:4 Bashan … Carmel … Libanus Ardaloedd yn enwog am eu tir ffrwythlon – gw. Micha 7:14.
yn gwywo.
5 Mae'r mynyddoedd yn crynu
a'r bryniau'n toddi o'i flaen.
Mae'r tir yn troi'n ddiffeithwch o'i flaen,
y byd, a phopeth sy'n byw ynddo.
6 Pwy all oroesi o flaen ei ddicter?
Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd?
Mae'n tywallt ei lid fel tân,
ac mae'r creigiau'n cael eu dryllio ganddo.
7 Mae'r Arglwydd yn dda,
ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng;
Mae'n gofalu am y rhai sy'n troi ato am help.
8 Ond mae'n gyrru ei elynion i'r tywyllwch;
fel llifogydd sy'n ysgubo popeth ymaith,
bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe'n llwyr.
9 Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn,
bydd yr Arglwydd yn eu dinistrio'n llwyr:
fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith!
10 Byddan nhw fel dynion wedi meddwi'n gaib;
Byddan nhw'n cael eu llosgi fel drysni o ddrain,
neu fonion gwellt wedi sychu'n llwyr.
11 Ohonot ti, Ninefe, y daeth un
oedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr Arglwydd
– strategydd drygioni!
▼
▼
1:11 Mae'r adnod yma, mae'n debyg, yn cyfeirio at Senacherib (brenin Asyria o 705 i 681
CC) Ymosododd ei fyddin ar Jerwsalem yn 701
CC, pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda – (gw. 2 Brenhinoedd 18:13—19:27)
12 Ond dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Er eu bod nhw'n gryf ac yn niferus,
byddan nhw'n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu.
Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda,
fydda i ddim yn dy gosbi di eto;
13 dw i'n mynd i dorri'r iau roddodd e ar dy war
a dryllio'r rhaffau sy'n dy rwymo.”
14 Mae'r Arglwydd wedi datgan am Ninefe:
“Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach.
Dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod
a'r delwau metel o demlau dy dduwiau.
Bydda i'n paratoi bedd i ti
fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”
15 Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd
yn cyhoeddi heddwch!
“Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda,
a chadw dy addewidion!
Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto;
byddan nhw'n cael eu dinistrio'n llwyr.”
Copyright information for
CYM