Nehemiah 12
Rhestr o offeiriaid a Lefiaid
1 Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid ddaeth yn ôl i Jerwsalem o Babilon gyda Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa: a Offeiriaid:
Seraia, Jeremeia, Esra,
2 Amareia, Malŵch, Chattwsh,
3 Shechaneia, Rechwm, Meremoth,
4 Ido, Gintoi, Abeia,
5 Miamin, Maadia, Bilga
6 Shemaia, Ioiarîf, Idaïa,
7 Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa.
(Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid a'i cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.) Lefiaid:
8 Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl.
9 Bacbwceia ac Wnni a'u cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau.
Disgynyddion Ieshŵa
10 Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacim, Ioiacim yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada, 11 Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa. Arweinwyr claniau'r offeiriaid
12 Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacim yn archoffeiriad:
Offeiriad | Clan |
Meraia | – o glan Seraia |
Chananeia | – o glan Jeremeia |
Meshwlam | – o glan Esra |
Iehochanan | – o glan Amareia |
Jonathan | – o glan Malwch |
Joseff | – o glan Shefaneia |
Adna | – o glan Charîm |
Chelcai | – o glan Meraioth |
Sechareia | – o glan Ido |
Meshwlam | – o glan Ginnethon |
Sichri | – o glan Abeia |
…
▼
▼
12:17 Mae'r enw ar goll yn y rhestr Hebraeg. | – o glan Miniamîn |
Piltai | – o glan Moadeia |
Shammwa | – o glan Bilga |
Jonathan | – o glan Shemaia |
Matenai | – o glan Ioiarîf |
Wssi | – o glan Idaïa |
Calai | – o glan Salw |
Eber | – o glan Amoc |
Chashafeia | – o glan Chilceia |
Nethanel | – o glan Idaïa |
Cofnod o glaniau yr offeiriaid a'r Lefiaid
22 Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia). 23 Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi ei gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol. 24 Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Iehoshwa, Binnŵi
▼
▼
12:24 fel adn.8. Hebraeg, “fab”
, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.) 25 Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i'r stordai wrth y giatiau. 26 Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacim (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra'r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith. Cysegru Waliau Jerwsalem
27 Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bob man yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau. 28 Roedd y cantorion wedi eu casglu hefyd, o'r ardal o gwmpas Jerwsalem a pentrefi Netoffa, 29 Beth-gilgal, a'r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw eu hunain o gwmpas Jerwsalem.) 30 Pan oedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, dyma nhw'n cysegru'r bobl, y giatiau, a'r wal. 31 Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a cael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel. 32 Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda. 33 Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam, 34 Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia – 35 offeiriaid gydag utgyrn. Yna'n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff) 36 a'i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda'r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi eu dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma). 37 Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain. 38 Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i'r cyfeiriad arall. Dyma fi'n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan, 39 dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr. 40 Wedyn dyma'r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a'r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi, 41 a'r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia. 42 Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma'r corau yn canu dan arweiniad Israchïa. 43 Roedd yn ddiwrnod o ddathlu a cafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a'r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i'w glywed o bell. Penodi dynion i gasglu'r cyfraniadau
44 Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau'r bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, a'r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau'r bobl i'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o'r offeiriaid a'r Lefiaid oedd yn gwasanaethu. 45 Nhw, gyda'r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau'r puro, fel gwnaeth y brenin Dafydd a'i fab Solomon orchymyn. 46 Ers pan oedd y brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, a'r caneuon o fawl a diolch i Dduw. 47 Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran i'r cantorion a'r gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran i'r Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron.