Numbers 11

Y tân yn Tabera

Dyma'r bobl yn dechrau cwyno fod bywyd yn galed, ac roedd yr  Arglwydd yn flin pan glywodd nhw. Roedd e wedi gwylltio'n lân gyda nhw. A dyma dân yr  Arglwydd yn dod ac yn dinistrio cyrion y gwersyll. Roedd y bobl yn gweiddi ar Moses i'w helpu nhw. A dyma Moses yn gweddïo ar yr  Arglwydd, a dyma'r tân yn diffodd. A dyma fe'n galw'r lle hwnnw yn Tabera, sef “Lle'r Llosgi”, am fod tân yr  Arglwydd wedi eu llosgi nhw yno.

Y bobl yn cwyno eto

Roedd yna griw cymysg o bobl yn eu plith nhw yn awchu am fwyd. Roedd pobl Israel yn crïo eto, ac yn cwyno, “Pam gawn ni ddim cig i'w fwyta?” Pan oedden ni yn yr Aifft roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i'w bwyta, a pethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg. Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydy'r manna yma! (Roedd y manna yn edrych fel had coriander, lliw resin golau, golau. Byddai'r bobl yn mynd allan i'w gasglu, ac yna'n gwneud blawd ohono gyda melinau llaw, neu drwy ei guro mewn mortar. Yna ei ferwi mewn crochan, a gwneud bara tenau ohono. Roedd yn blasu'n debyg i olew olewydd. Roedd y manna'n disgyn ar lawr y gwersyll dros nos gyda'r gwlith.)

10 Dyma Moses yn clywed y bobl i gyd yn crïo tu allan i'w pebyll. Roedd yr  Arglwydd wedi digio go iawn gyda nhw, ac roedd Moses yn gweld fod pethau'n ddrwg. 11 A dyma Moses yn gofyn i'r  Arglwydd, “Pam wyt ti'n trin fi mor wael? Beth dw i wedi ei wneud o'i le? Mae'r bobl yma'n ormod o faich! 12 Ydyn nhw'n blant i mi? Ai fi ddaeth â nhw i'r byd? Ac eto ti'n disgwyl i mi eu cario nhw, fel tad maeth yn cario ei blentyn! Ti'n disgwyl i mi fynd â nhw i'r wlad wnest ti addo ei rhoi i'w hynafiaid. 13 Ble dw i'n mynd i ddod o hyd i gig i'w roi i'r bobl yma i gyd? Maen nhw'n cwyno'n ddi-stop, ‘Rho gig i ni i'w fwyta! Dŷn ni eisiau cig!’ 14 Mae'r cwbl yn ormod i mi! Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun. 15 Os mai fel yma wyt ti am fy nhrin i, byddai'n well gen i farw! Gwna ffafr â mi a lladd fi nawr! Alla i gymryd dim mwy!”

16 A dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Galw saith deg o arweinwyr Israel at ei gilydd – dynion cyfrifol wyt ti'n gwybod amdanyn nhw. Tyrd â nhw i sefyll gyda ti o flaen Pabell Presenoldeb Duw. 17 Bydda i'n dod i lawr i siarad â ti yno. Bydda i'n cymryd peth o'r Ysbryd sydd arnat ti, ac yn ei roi arnyn nhw. Wedyn byddan nhw'n cymryd peth o'r baich oddi arnat ti – fydd dim rhaid i ti gario'r cwbl dy hun.

18 “A dywed wrth y bobl am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain erbyn yfory. Dywed wrthyn nhw, ‘Byddwch chi'n cael cig i'w fwyta. Mae'r  Arglwydd wedi'ch clywed chi'n crïo ac yn cwyno, ac yn dweud, “Pwy sy'n mynd i roi cig i ni i'w fwyta? Roedd bywyd yn well yn yr Aifft!” Wel, mae'r  Arglwydd yn mynd i roi cig i chi i'w fwyta. 19 Dim jest am ddiwrnod neu ddau, na hyd yn oed pump, deg neu ddau ddeg! 20 Byddwch chi'n ei fwyta am fis cyfan. Yn y diwedd bydd e'n dod allan o'ch ffroenau chi! Byddwch chi mor sâl, byddwch chi'n chwydu cig! Am eich bod chi wedi dangos diffyg parch at yr  Arglwydd sydd gyda chi, a cwyno o'i flaen, “Pam wnaethon ni adael yr Aifft?”’”

21 “Mae yna chwe chan mil o filwyr traed o'm cwmpas i,” meddai Moses, “a ti'n dweud dy fod yn mynd i roi digon o gig iddyn nhw ei fwyta am fis cyfan! 22 Hyd yn oed petaen ni'n lladd yr anifeiliaid sydd gynnon ni i gyd, fyddai hynny ddim digon! Neu'n dal yr holl bysgod sydd yn y môr! Fyddai hynny'n ddigon?”

23 A dyma'r  Arglwydd yn ateb, “Wyt ti'n meddwl fy mod i'n rhy wan? Cei weld ddigon buan a ydw i'n dweud y gwir!”

24 Felly dyma Moses yn mynd allan, a dweud wrth y bobl beth ddwedodd yr  Arglwydd. A dyma fe'n casglu saith deg o'r arweinwyr a'i gosod i sefyll o gwmpas y Tabernacl. 25 A dyma'r  Arglwydd yn dod i lawr yn y cwmwl, ac yn siarad â nhw. A dyma fe'n cymryd peth o'r Ysbryd oedd ar Moses, a'i roi ar y saith deg arweinydd. Pan ddaeth yr Ysbryd arnyn nhw dyma nhw'n proffwydo. Ond dyna oedd yr unig adeg wnaethon nhw hynny.

26 Roedd yna ddau ddyn, Eldad a Medad, oedd wedi aros yn y gwersyll. (Roedd y ddau ohonyn nhw ar restr yr arweinwyr, ond ddim wedi mynd at y Tabernacl.) A dyma'r Ysbryd yn dod arnyn nhw hefyd, a dyma nhw'n dechrau proffwydo lle roedden nhw, yn y gwersyll. 27 Dyma ddyn ifanc yn rhedeg at Moses a dweud wrtho, “Mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll!” 28 Felly dyma Josua fab Nwn, un o'r dynion ifanc roedd Moses wedi eu dewis i'w wasanaethu, yn dweud, “Moses, meistr! Gwna iddyn nhw stopio!” 29 Ond dyma Moses yn ei ateb, “Wyt ti'n eiddigeddus drosto i? O na fyddai pobl Dduw i gyd yn broffwydi! Byddwn i wrth fy modd petai'r  Arglwydd yn rhoi ei Ysbryd arnyn nhw i gyd!” 30 Yna dyma Moses ac arweinwyr Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll.

Yr  Arglwydd yn anfon Soflieir

31 Dyma'r  Arglwydd yn gyrru gwynt wnaeth gario soflieir o gyfeiriad y môr, a gwneud iddyn nhw ddisgyn o gwmpas y gwersyll. Roedd soflieir am filltiroedd i bob cyfeiriad, yn hedfan tua metr a hanner uwch wyneb y ddaear. 32 Buodd y bobl wrthi ddydd a nos y diwrnod hwnnw, a'r diwrnod wedyn, yn casglu'r soflieir. Wnaeth neb gasglu llai na llond deg basged fawr!
11:32 Hebraeg, “deg homer”. Cyfaint 1 homer oedd tua 50 galwyn.
A dyma nhw'n eu gosod nhw allan ym mhobman o gwmpas y gwersyll.
33 Ond tra roedden nhw'n bwyta'r cig, a prin wedi dechrau ei gnoi, dyma'r  Arglwydd yn dangos mor ddig oedd e, ac yn gadael i bla ofnadwy daro'r bobl. 34 Felly dyma'r lle yna'n cael ei alw yn Cibroth-hattaäfa (sef ‛Beddau'r Gwancus‛), am mai dyna ble cafodd y bobl oedd yn awchu am gig eu claddu.

35 Dyma'r bobl yn teithio ymlaen o Cibroth-hattaäfa i Chatseroth, ac aros yno.

Copyright information for CYM