Numbers 14

Y bobl yn cwyno eto

Dyma bawb yn torri allan i grïo'n uchel. Roedden nhw'n crïo drwy'r nos. Dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a troi yn erbyn Moses ac Aaron. “Byddai'n well petaen ni wedi marw yn yr Aifft, neu hyd yn oed yn yr anialwch yma!” medden nhw. “Pam mae'r  Arglwydd wedi dod â ni i'r wlad yma i gael ein lladd yn y frwydr? Bydd ein gwragedd a'n plant yn cael eu cymryd yn gaethion! Fyddai ddim yn well i ni fynd yn ôl i'r Aifft?” A dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ddewis rhywun i'n harwain ni, a mynd yn ôl i'r Aifft.”

Dyma Moses ac Aaron yn plygu gyda'i hwynebau ar lawr. Gwnaethon nhw hyn o flaen pobl Israel i gyd oedd wedi dod at ei gilydd. Yna dyma ddau o'r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio'r wlad – sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne – yn rhwygo eu dillad. A dyma nhw'n dweud wrth bobl Israel, “Mae'r wlad buon ni'n edrych arni yn wlad fendigedig! Os ydy'r  Arglwydd yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi'r wlad i ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr  Arglwydd! A peidiwch bod ag ofn y bobl sy'n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae'r  Arglwydd gyda ni! Felly peidiwch bod a'i hofn nhw.” 10 Erbyn hyn roedd y bobl yn bygwth lladd Josua a Caleb trwy daflu cerrig atyn nhw. Ond yna dyma ysblander yr  Arglwydd yn dod i'r golwg uwch ben Pabell Presenoldeb Duw. (Gwelodd pobl Israel i gyd hyn.) 11 A dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Am faint mae'r bobl yma'n mynd i'm dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi eu gweld? 12 Dw i wedi cael digon! Dw i'n mynd i anfon haint i'w dinistrio nhw! A bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.”

Moses yn gweddïo dros y bobl

13 A dyma Moses yn dweud wrth yr  Arglwydd, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â'r bobl allan oddi wrthyn nhw. 14 Byddan nhw'n dweud am y peth wrth bobl y wlad dŷn ni'n mynd iddi.  Arglwydd, maen nhw wedi clywed dy fod ti gyda'r bobl yma. Maen nhw'n gwybod fod y bobl yma wedi dy weld di gyda'i llygaid eu hunain, bod dy gwmwl di yn hofran uwch eu pennau, a dy fod ti'n eu harwain nhw mewn colofn o niwl yn y dydd a colofn o dân yn y nos. 15 Os gwnei di ladd y bobl yma i gyd gyda'i gilydd, bydd y gwledydd sydd wedi clywed amdanat ti'n dweud 16 ‘Doedd yr  Arglwydd ddim yn gallu arwain y bobl i'r wlad oedd e wedi ei haddo iddyn nhw, felly dyma fe'n eu lladd nhw yn yr anialwch!’ 17 Felly, fy Meistr, dangos mor gryf wyt ti. Rwyt ti wedi dweud, 18 ‘Mae'r  Arglwydd mor amyneddgar ac mae ei haelioni yn anhygoel. Mae'n maddau beiau a gwrthryfel. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Mae pechodau pobl yn gadael eu hôl ar y plant am dair neu bedair cenhedlaeth.’ a  19 Plîs wnei di faddau drygioni'r bobl yma? Mae dy gariad ffyddlon mor fawr, ac rwyt ti wedi bod yn maddau iddyn nhw ers iddyn nhw ddod o'r Aifft.”

20 A dyma'r  Arglwydd yn ateb, “Iawn, dw i wedi maddau iddyn nhw fel wyt ti eisiau. 21 Ond mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw, a bod fy ysblander i'n llenwi'r byd i gyd: 22 Mae'r bobl yma wedi gweld fy ysblander i, a'r holl arwyddion gwyrthiol wnes i yn yr Aifft, ac eto maen nhw wedi fy rhoi i ar brawf dro ar ôl tro, ac wedi gwrthod gwrando arna i. 23 Felly gân nhw'n bendant ddim gweld y wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid. Fydd neb o'r rhai sydd wedi bod mor ddirmygus ohono i yn mynd yno. 24 Ond mae fy ngwas Caleb yn wahanol. Mae e wedi bod yn ffyddlon, a bydd e'n cael mynd yn ôl i'r wlad aeth e i'w gweld, a bydd ei blant yn ei hetifeddu. 25 (Cofia fod yr Amaleciaid a'r Canaaneaid yn byw yn y dyffrynnoedd.) Felly, yfory, dw i am i ti droi yn ôl i gyfeiriad yr anialwch sydd ar y ffordd yn ôl i'r Môr Coch.”
14:25 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.

Yr  Arglwydd yn cosbi'r bobl

26 Dyma'r  Arglwydd yn siarad gyda Moses ac Aaron: 27 “Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddiodde'r bobl yma sy'n cwyno ac yn ymosod arna i? Dw i wedi clywed popeth maen nhw'n ei ddweud. 28 Dywed wrthyn nhw fy mod i, yr  Arglwydd, yn dweud, ‘Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw, bydda i'n gwneud i chi beth glywais i chi'n gofyn amdano! 29 Byddwch chi'n syrthio'n farw yma yn yr anialwch. Am eich bod chi wedi troi yn fy erbyn i, fydd dim un ohonoch chi gafodd ei gyfrif (o ddau ddeg oed i fyny) 30 yn cael mynd i'r wlad wnes i addo ei rhoi i chi setlo ynddi. Yr unig ddau eithriad fydd Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn. 31 Ond bydd eich plant (y rhai oeddech chi'n dweud fyddai'n cael eu cymryd yn gaethion) yn cael mwynhau y wlad oeddech chi mor ddibris ohoni. 32 Byddwch chi'n syrthio'n farw yn yr anialwch yma. 33 A bydd eich plant yn gorfod crwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. Byddan nhw'n talu am eich bod chi wedi bod yn anffyddlon! Dyna fydd y sefyllfa nes bydd corff yr olaf o'ch cenhedlaeth chi yn gorwedd yn yr anialwch. 34 Byddwch chi'n dioddef am y drwg am bedwar deg mlynedd, sef un flwyddyn am bob diwrnod buoch chi'n archwilio'r wlad. Byddwch chi'n deall beth mae'n ei olygu i'm cael i yn elyn i chi!’ 35 Dw i, yr  Arglwydd wedi dweud. Dw i'n mynd i wneud hyn i bob un o'r criw sydd wedi dod at ei gilydd yn fy erbyn i. Yr anialwch yma fydd eu diwedd nhw! Dyma ble fyddan nhw'n marw!”

36 Yna dyma'r dynion roddodd adroddiad gwael ar ôl bod yn archwilio'r wlad, a gwneud i'r bobl gwyno a troi yn erbyn Moses, yn cael eu taro gan bla ac yn marw o flaen yr  Arglwydd. 38 Ond cafodd Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne, oedd gyda nhw, fyw.

Yr ymgais cyntaf i feddiannu'r wlad

(Deuteronomium 1:41-46)

39 Pan ddwedodd Moses wrth bobl Israel am hyn i gyd, buodd y bobl yn galaru am y peth. 40 Yna'n gynnar iawn y bore wedyn dyma nhw'n mynd i fyny i ben bryn. “Dyma ni,” medden nhw, “gadewch i ni fynd i'r lle ddwedodd yr  Arglwydd. Dŷn ni'n gwybod ein bod ni wedi pechu.” 41 Ond dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n tynnu'n groes i beth mae'r  Arglwydd wedi ei ddweud eto? Wnewch chi ddim llwyddo! 42 Peidiwch mynd yn eich blaenau. Dydy'r  Arglwydd ddim gyda chi. Bydd eich gelynion yn eich curo chi. 43 Byddwch chi'n dod wyneb yn wyneb â'r Amaleciaid a'r Canaaneaid, ac yn cael eich lladd. Dych chi wedi troi cefn ar yr  Arglwydd, felly fydd yr  Arglwydd ddim gyda chi.”

44 Er hynny dyma nhw'n mynnu mentro yn eu blaenau i fyny i'r bryniau. Ond wnaeth Arch ymrwymiad yr  Arglwydd na Moses ddim gadael y gwersyll. 45 A dyma'r Amaleciaid a'r Canaaneaid oedd yn byw yno yn ymosod arnyn nhw, a mynd ar eu holau yr holl ffordd i Horma.

Copyright information for CYM