Proverbs 11

1Mae'n gas gan yr  Arglwydd glorian dwyllodrus;
ond mae defnyddio pwysau cywir wrth ei fodd.
2Mae snobyddiaeth yn arwain at gywilydd,
pobl wylaidd ydy'r rhai doeth.
3Mae gonestrwydd yn arwain y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn;
ond mae twyll yn dinistrio'r rhai sy'n twyllo.
4Fydd cyfoeth yn dda i ddim ar ddydd y farn,
ond mae byw yn iawn yn achub bywyd.
5Mae cyfiawnder rhywun gonest yn dangos y ffordd iawn iddo,
ond mae'r un sy'n gwneud drwg yn syrthio o achos ei ddrygioni.
6Mae cyfiawnder rhywun gonest yn ei achub
ond mae'r un sy'n twyllo yn cael ei ddal gan ei driciau.
7Pan mae rhywun drwg yn marw, dyna ni – does dim gobaith
dydy'r cyfoeth oedd ganddo yn dda i ddim bellach.
8Mae'r cyfiawn yn cael ei achub rhag helyntion,
a'r un sy'n gwneud drwg yn gorfod cymryd ei le!
9Mae'r annuwiol yn dinistrio pobl gyda'i eiriau,
ond mae'r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed.
10Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd;
mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio.
11Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio,
ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi.
12Does dim sens gan rywun sy'n bychanu pobl eraill;
mae'r person call yn cadw'n dawel.
13Mae'r un sy'n hel clecs yn bradychu cyfrinach, a 
ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach.
14Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu,
mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth.
15Mae gwarantu benthyciad i rywun dieithr yn gofyn am drwbwl;
gwell bod yn saff a gwrthod.
16Mae gwraig hael yn ennill parch;
mae dynion creulon yn cipio cyfoeth.
17Mae person caredig yn gwneud lles iddo'i hun,
a rhywun sy'n greulon yn achosi trwbwl iddo'i hun.
18Dydy'r elw mae pobl ddrwg yn ei wneud yn ddim byd ond rhith,
ond mae'r rhai sy'n gweithio dros gyfiawnder yn cael gwobr go iawn.
19Mae gwir gyfiawnder yn arwain at fywyd,
ond dilyn y drwg yn arwain at farwolaeth.
20Mae'n gas gan yr  Arglwydd bobl sy'n twyllo,
ond mae'r rhai sy'n byw yn onest yn rhoi pleser iddo.
21Fydd pobl ddrwg yn sicr ddim yn osgoi cosb,
ond bydd y rhai sy'n byw'n iawn yn cael mynd yn rhydd.
22Mae gwraig hardd heb sens
fel modrwy aur yn nhrwyn hwch.
23Dydy'r cyfiawn ond eisiau gwneud beth sy'n dda;
ond mae gobaith pobl ddrwg yn arwain i ddigofaint.
24Mae un yn rhoi yn hael, ac yn ennill mwy o gyfoeth;
ac un arall yn grintachlyd, ac ar ei golled.
25Mae'r bobl sy'n fendith i eraill yn llwyddo;
a'r rhai sy'n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu.
26Mae'r un sy'n cadw ei ŷd iddo'i hun yn haeddu melltith,
ond mae'r un sy'n ei werthu yn cael ei fendithio.
27Mae'r un sy'n ymdrechu i wneud da yn ennill ffafr;
ond drwg ddaw ar y rhai sy'n edrych am helynt.
28Bydd rhywun sy'n dibynnu ar ei gyfoeth yn syrthio,
ond y rhai sy'n byw yn iawn yn blodeuo.
29Bydd yr un sy'n creu trwbwl i'w deulu yn etifeddu dim;
bydd y ffŵl yn gaethwas i rywun sydd wedi bod yn ddoeth.
30Mae byw yn iawn yn dwyn ffrwyth,
fel coeden sy'n rhoi bywyd;
ond mae trais yn lladd pobl.
11:30 ond mae trais yn lladd pobl Hebraeg, “mae'r un sy'n cymryd pobl yn ddoeth.” cf. Salm 31:13

31Os ydy'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael eu tâl ar y ddaear,
beth ddaw o'r rhai drwg sy'n anufudd i Dduw?
Copyright information for CYM