Proverbs 14

Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref,
ond mae'r un ffôl yn ei rwygo i lawr â'i dwylo ei hun.
Mae'r person sy'n byw'n iawn yn parchu'r  Arglwydd;
ond mae'r rhai sy'n twyllo yn ei ddirmygu.
Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn,
ond mae geiriau'r doeth yn ei amddiffyn.
Heb ychen, mae'r cafn bwydo yn wag;
mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr.
Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd;
Ond mae gau-dyst yn palu celwyddau.
Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael;
ond mae person deallus yn dysgu'n rhwydd.
Cadw draw o gwmni person ffôl,
achos wnei di ddysgu dim ganddo.
Mae person call yn gwybod ble mae e'n mynd,
ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb.
Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd,
ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn profi ffafr Duw.
10 Dim ond y galon ei hun sy'n gwybod mor chwerw ydy hi,
a does neb arall yn gallu rhannu ei llawenydd.
11 Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio,
ond bydd cartre'r un sy'n byw'n iawn yn llwyddo.
12 Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl,
ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.
13 Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin,
ac mae hapusrwydd yn gallu troi'n dristwch yn y diwedd.
14 Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd;
ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd.
15 Mae'r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth;
ond mae'r person call yn fwy gofalus.
16 Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni,
ond mae'r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll.
17 Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl;
ac mae'n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau gyfrwys.
18 Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb,
ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth.
19 Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da,
a'r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau'r cyfiawn.
20 Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu,
ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau.
21 Mae rhywun sy'n malio dim am bobl eraill yn pechu;
ond mae bendith fawr i'r rhai sy'n helpu pobl mewn angen.
22 Onid ydy'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn mynd ar goll?
Ond mae'r rhai sy'n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon.
23 Mae elw i bob gwaith caled,
ond mae gwneud dim ond siarad yn arwain i dlodi.
24 Mae'r doeth yn cael cyfoeth yn goron;
ond ffolineb ydy torch ffyliaid.
25 Mae tyst sy'n dweud y gwir yn achub bywydau;
ond mae'r un sy'n palu celwyddau yn dwyllwr.
26 Mae parchu'r  Arglwydd yn rhoi hyder,
ac yn lle diogel i blant rhywun gysgodi.
27 Mae parchu'r  Arglwydd yn ffynnon sy'n rhoi bywyd,
ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth.
28 Mae bod yn frenin ar boblogaeth fawr yn anrhydedd;
ond heb bobl dydy llywodraethwr yn neb.
29 Mae rheoli'ch tymer yn beth call iawn i'w wneud;
ond mae colli'ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl.
30 Mae ysbryd tawel yn iechyd i'r corff;
ond cenfigen fel cancr yn pydru'r esgyrn.
31 Mae'r un sy'n gormesu'r tlawd yn amharchu ei Grëwr;
ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn anrhydeddu Duw.
32 Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel gan eu drygioni eu hunain;
ond mae gonestrwydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn eu cadw nhw'n saff.
33 Mae doethineb yn eistedd yn gyfforddus ym meddwl rhywun sy'n synhwyrol,
ond ydy ffyliaid yn gwybod amdano o gwbl?
34 Mae cyfiawnder yn gwneud gwlad yn un wych;
ond pechod yn dwyn gwarth ar bobl.
35 Mae'r brenin yn dangos ffafr at was da;
ond yn digio wrth un sy'n dda i ddim.
Copyright information for CYM