Proverbs 23

Pan wyt ti'n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr,
gwylia'n ofalus sut rwyt ti'n ymddwyn;
dal yn ôl, paid llowcio dy fwyd.
Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion,
mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti!
Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian;
bydd yn ddigon call i ymatal.
Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd!
Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.
Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd;
paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion.
Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta!
Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,”
ond dydy e ddim yn meddwl y peth go iawn.
Byddi'n chwydu'r ychydig rwyt wedi ei fwyta,
ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig.
Paid dweud gormod wrth ffŵl,
fydd e'n gwneud dim ond gwawdio dy eiriau doeth di.
10 Paid symud yr hen ffiniau,
a dwyn tir oddi ar yr amddifad;
11 mae'r Un sy'n eu hamddiffyn nhw yn gryf,
a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di.
12 Penderfyna dy fod eisiau dysgu
a gwrando ar eiriau doeth.
13 Paid bod ag ofn disgyblu dy blentyn;
dydy gwialen ddim yn mynd i'w ladd e.
14 Defnyddia'r wialen
a byddi'n achub ei fywyd.
15 Fy mab, os dysgi di fod yn ddoeth,
bydda i'n hapus iawn.
16 Bydda i wrth fy modd
yn dy glywed di'n dweud beth sy'n iawn.
17 Paid cenfigennu wrth y rhai sy'n pechu –
bydd di'n ffyddlon i Dduw bob amser.
18 Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd,
a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
19 Gwranda, fy mab, a bydd ddoeth;
penderfyna ddilyn y ffordd iawn.
20 Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed,
ac yn stwffio eu hunain hefo bwyd.
21 Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd;
fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.
22 Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd;
a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.
23 Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng,
doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!
24 Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawn
bydd ei dad mor hapus;
mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.
25 Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau;
gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!
26 Dw i eisiau dy sylw di, fy mab;
gwylia'n ofalus, a dysga gen i.
27 Mae putain fel pwll dwfn;
a gwraig anfoesol fel pydew cul.
28 Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr;
ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd.
29 Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus?
Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg?
Pwy sy'n cael damweiniau diangen?
Pwy sydd â llygaid cochion?
30 Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân,
ac yn trïo rhyw ddiod newydd o hyd.
31 Paid llygadu'r gwin coch yna
sy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydr
ac yn mynd i lawr mor dda.
32 Bydd yn dy frathu fel neidr yn y diwedd;
bydd fel brathiad gwiber.
33 Byddi'n gweld pethau rhyfedd,
a bydd dy feddwl wedi drysu'n lân.
34 Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr,
neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren.
35 “Ces fy nharo, ond wnes i deimlo dim byd;
Ces fy nghuro, ond dw i'n cofio dim am y peth.
Pryd dw i'n mynd i sobri?
– dw i angen diod arall.”
Copyright information for CYM