Proverbs 5

Bod yn ffyddlon i dy wraig

Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti;
gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud.
Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn,
ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth.
Mae gwefusau'r wraig anfoesol yn diferu fel mêl,
a'i geiriau hudol yn llyfn fel olew;
Ond mae hi'n troi allan i fod yn chwerw fel y wermod,
ac yn finiog fel cleddyf.
Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth;
mae ei chamau yn arwain i'r bedd.
Dydy hi'n gwybod dim am fywyd go iawn;
mae hi ar goll – a ddim yn sylweddoli hynny.
Felly, fy mab, gwrando'n ofalus arna i,
a paid troi cefn ar beth dw i'n ddweud.
Cadw draw oddi wrthi hi!
Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi,
rhag i ti golli pob hunan-barch,
ac i'w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti.
10 Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di,
ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio'n galed amdano.
11 Wedyn byddi'n griddfan yn y diwedd,
pan fydd dy gorff wedi ei ddifetha.
12 Byddi'n dweud,
“Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint?
Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd?
13 Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon,
a chymryd sylw o'r rhai oedd yn fy nysgu i?
14 Bu bron i bopeth chwalu'n llwyr i mi,
a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.”
15 Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun!
Ei dŵr ffres hi a neb arall.
16 Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon di
lifo allan i'r strydoedd?
17 Na, cadw hi i ti dy hun,
paid gadael i neb arall ei chael.
18 Gad i dy ffynnon gael ei bendithio!
Mwynha dy hun gyda'r wraig briodaist ti pan yn ifanc
19 – dy ewig hyfryd, dy afr dlos.
Gad i'w bronnau roi boddhad i ti,
i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.
20 Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol?
Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn?
21 Cofia fod Duw yn gweld popeth ti'n wneud.
Mae'n gweld y cwbl, o'r dechrau i'r diwedd.
22 Bydd yr un sy'n gwneud drwg yn cael ei ddal gan ei ddrygioni! –
bydd wedi ei rwymo gan raffau ei bechod ei hun.
23 Bydd yn marw am fod ganddo ddim disgyblaeth,
ac wedi meddwi ar chwarae'r ffŵl.
Copyright information for CYM