Proverbs 8

Doethineb yn galw

Mae doethineb yn galw,
a deall yn codi ei llais.
Mae hi'n sefyll ar fannau uchaf y dref,
wrth ymyl y croesffyrdd,
ac wrth ymyl giatiau'r ddinas.
Mae hi'n gweiddi wrth y fynedfa,
“Dw i'n galw arnoch chi i gyd, bobl!
Dw i'n galw ar y ddynoliaeth gyfan.
Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall;
chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth.
Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i'w dweud;
dw i am ddweud beth sy'n iawn wrthoch chi.
Dw i bob amser yn dweud y gwir;
mae'n gas gen i gelwydd.
Mae pob gair dw i'n ddweud yn iawn,
does dim twyll, dim celwydd.
Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall,
ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.
10 Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian;
ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.”
11 Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr;
does dim byd tebyg iddi.
12 “Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb;
fi sy'n dangos y ffordd iawn i bobl. a 
13 Mae parchu'r  Arglwydd yn golygu casáu'r drwg.
Dw i'n casáu balchder snobyddlyd,
pob ymddygiad drwg a thwyll.
14 Fi sy'n rhoi cyngor doeth,
fi ydy'r ffordd orau a fi sy'n rhoi cryfder.
15 Fi sy'n rhoi'r gallu i frenhinoedd deyrnasu,
ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn.
16 Dw i'n galluogi arweinwyr i reoli,
a pobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn.
17 Dw i'n caru'r rhai sy'n fy ngharu i,
ac mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn fy nghael.
18 Dw i'n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl,
cyfoeth sy'n para, a thegwch.
19 Mae fy ffrwyth i yn well nag aur, ie, aur coeth,
a'r cynnyrch sydd gen i yn well na'r arian gorau.
20 Dw i'n dangos y ffordd i fyw'n gyfiawn,
a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg.
21 Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu;
ac yn llenwi eu trysordai nhw.
22 Roedd yr  Arglwydd wedi fy ngeni i
cyn iddo wneud dim byd arall.
23 Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl,
ar y dechrau cyntaf, cyn i'r ddaear fodoli.
24 Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i,
a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr.
25 Doedd y mynyddoedd ddim wedi eu gosod yn eu lle,
a doedd y bryniau ddim yn bodoli.
26 Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna,
na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd.
27 Roeddwn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le;
a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd.
28 Pan roddodd y cymylau yn yr awyr,
a pan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr.
29 Pan osododd ffiniau i'r môr,
fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo;
a pan osododd sylfeini'r ddaear.
30 Roeddwn i yno fel crefftwr,
yn rhoi pleser pur iddo bob dydd,
wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen.
31 Roeddwn i'n dawnsio ar wyneb y ddaear,
ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi.
32 Nawr, blant, gwrandwch arna i;
Mae'r rhai sy'n gwneud beth dw i'n ddweud mor hapus.
33 Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud a byddwch ddoeth;
peidiwch troi cefn arno.
34 Mae'r rhai sy'n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith,
maen nhw'n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd,
yn disgwyl i mi ddod allan.
35 Mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn cael bywyd;
mae'r  Arglwydd yn dda atyn nhw.
36 Ond mae'r rhai sy'n pasio heibio i mi yn peryglu eu hunain;
mae pawb sy'n fy nghasáu i yn caru marwolaeth.”
Copyright information for CYM