Psalms 119

Cyfraith yr  Arglwydd

(Aleff)

1Mae'r rhai sy'n byw yn iawn,
a gwneud beth mae cyfraith yr  Arglwydd yn ei ddweud
wedi eu bendithio'n fawr!
2Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae'n ddweud,
ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo
wedi eu bendithio'n fawr!
3Dŷn nhw'n gwneud dim drwg,
ond ymddwyn fel mae e eisiau.
4Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion
i gael eu cadw'n ofalus.
5O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn
fel mae dy ddeddfau di'n dweud! –
6Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd
wrth feddwl am dy orchmynion di.
7Dw i'n diolch i ti o waelod calon
wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau.
8Dw i'n mynd i gadw dy ddeddfau;
felly paid troi cefn arna i'n llwyr!

(Bet)

9Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? –
drwy wneud fel rwyt ti'n dweud.
10Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti;
paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.
11Dw i'n trysori dy neges di yn fy nghalon;
er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.
12Rwyt ti'n fendigedig, O  Arglwydd!
Dysga dy ddeddfau i mi.
13Dw i'n ailadrodd yn uchel
y rheolau rwyt ti wedi eu rhoi.
14Mae byw fel rwyt ti'n dweud
yn rhoi mwy o lawenydd na'r cyfoeth mwya.
15Dw i am fyfyrio ar dy ofynion,
a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd.
16Mae dy ddeddfau di yn rhoi'r pleser mwya i mi!
Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti'n ddweud.

(Gimel)

17Helpa dy was!
Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
18Agor fy llygaid, i mi allu deall
y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu.
19Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro.
Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.
20Dw i'n ysu am gael gwybod
beth ydy dy ddyfarniad di.
21Rwyt ti'n ceryddu pobl falch,
ac yn melltithio'r rhai sy'n crwydro oddi wrth dy orchmynion di.
22Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd?
Dw i'n cadw dy reolau di.
23Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i,
mae dy was yn astudio dy ddeddfau.
24Mae dy ofynion di yn hyfrydwch pur i mi,
ac yn rhoi arweiniad cyson i mi.

(Dalet)

25Dw i'n methu codi o'r llwch!
Adfywia fi fel rwyt wedi addo!
26Dyma fi'n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti'n ateb.
Dysga dy ddeddfau i mi.
27Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion,
a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
28Mae tristwch yn fy lladd i!
Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!
29Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi;
a rho dy ddysgeidiaeth i mi.
30Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti;
a chadw fy llygaid ar dy reolau di.
31Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion;
 Arglwydd, paid siomi fi!
32Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion;
helpa fi i weld y darlun mawr.

(He)

33O  Arglwydd, dysga fi i fyw
fel mae dy gyfraith di'n dweud;
a'i dilyn i'r diwedd.
34Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di;
bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn.
35Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion;
dyna dw i eisiau ei wneud.
36Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau di
yn lle bod eisiau llwyddo'n faterol.
37Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!
Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
38Gwna beth wnest ti ei addo i dy was,
i ennyn parch ac addoliad ynof fi.
39Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd,
Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.
40Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn;
Rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.

(Faf)

41Gad i mi brofi dy gariad, O  Arglwydd.
Achub fi, fel rwyt wedi addo.
42Wedyn bydda i'n gallu ateb y rhai sy'n fy enllibio,
gan fy mod i'n credu beth rwyt ti'n ddweud.
43Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir,
dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.
44Wedyn bydda i'n ufudd i dy ddysgeidiaeth di
am byth bythoedd!
45Gad i mi gerdded yn rhydd
am fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
46Bydda i'n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion.
Fydd gen i ddim cywilydd.
47Mae dy orchmynion yn rhoi'r pleser mwya i mi,
dw i wir yn eu caru nhw!
48Dw i'n cydnabod ac yn caru dy orchmynion,
ac yn myfyrio ar dy ddeddfau.

(Tsayin)

49Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was –
dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi.
50Yr hyn sy'n gysur i mi pan dw i'n isel
ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi.
51Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio i'n greulon,
ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di.
52Dw i'n cofio dy reolau ers talwm, O  Arglwydd,
ac mae hynny'n rhoi cysur i mi.
53Dw i'n gwylltio'n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynny
sy'n gwrthod dy ddysgeidiaeth di.
54Dy ddeddfau di fu'n destun i'm cân
ble bynnag dw i wedi byw!
55Dw i'n cofio dy enw di yn y nos, O  Arglwydd,
ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ddysgu.
56Dyna dw i wedi ei wneud bob amser –
ufuddhau i dy ofynion di.

(Chet)

57Ti,  Arglwydd, ydy fy nghyfran i:
Dw i'n addo gwneud fel rwyt ti'n dweud.
58Dw i'n erfyn arnat ti o waelod calon:
Dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud.
59Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd,
ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di.
60Heb unrhyw oedi, dw i'n brysio
i wneud beth rwyt ti'n ei orchymyn.
61Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad,
ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di.
62Ganol nos dw i'n codi i ddiolch
am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
63Dw i'n ffrind i bawb sy'n dy ddilyn di,
ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn.
64Mae dy gariad di, O  Arglwydd, yn llenwi'r ddaear!
Dysga dy ddeddfau i mi.

(Tet)

65Rwyt wedi bod yn dda tuag ata i
fel y gwnest ti addo, O  Arglwydd.
66Rho'r gallu i mi wybod beth sy'n iawn;
dw i'n trystio dy orchmynion di.
67Roeddwn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef,
ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
68Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda:
dysga dy ddeddfau i mi.
69Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i,
ond dw i'n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion.
70Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw,
ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di.
71Roedd yn beth da i mi orfod dioddef,
er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau.
72Mae beth rwyt ti'n ei ddysgu yn fwy gwerthfawr
na miloedd o ddarnau arian ac aur.

(Iod)

73Ti sydd wedi fy ngwneud i a'm siapio i;
helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di.
74Bydd pawb sy'n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi,
am mai dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi.
75O  Arglwydd, dw i'n gwybod fod beth rwyt ti'n benderfynu yn iawn;
roeddet ti'n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi.
76Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi,
fel gwnest ti addo i dy was.
77Mae dy ddysgeidiaeth di'n rhoi'r pleser mwya i mi
felly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw.
78Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam!
Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di.
79Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolau
fy nerbyn i yn ôl.
80Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfau
fel bydd dim cywilydd arna i.

(Caff)

81Dw i'n dyheu i ti fy achub i!
Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
82Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi ei addo:
“Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i.
83Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg!
Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau.
84Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddisgwyl?
Pryd wyt ti'n mynd i gosbi'r rhai sy'n fy erlid i?
85Dydy'r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di;
maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i.
86Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di;
mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi!
87Maen nhw bron â'm lladd i,
ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.
88Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw,
a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.

(Lamed)

89Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di,  Arglwydd;
maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth.
90Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau!
Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno.
91Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di,
mae'r cwbl yn dy wasanaethu di.
92Byddwn i wedi marw o iselder
oni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth.
93Wna i byth anghofio dy reolau di,
rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi trwyddyn nhw.
94Ti sydd piau fi. Achub fi!
Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau.
95Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio,
ond dw i'n myfyrio ar dy orchmynion.
96Mae yna ben draw i bopeth arall,
ond mae dy orchmynion di yn ddiderfyn!

(Mem)

97O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di!
Dw i'n myfyrio ynddi drwy'r dydd.
98Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser;
maen nhw'n fy ngwneud i'n gallach na'm gelynion;
99Dw i wedi dod i ddeall mwy na'm hathrawon i gyd,
am fy mod i'n myfyrio ar dy ddeddfau di.
100Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed,
am fy mod i'n cadw dy ofynion di.
101Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg
er mwyn gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
102Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di,
am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.
103Mae'r pethau rwyt ti'n eu dweud mor dda,
maen nhw'n felys fel mêl.
104Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi;
ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.

(Nwn)

105Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed,
ac yn goleuo fy llwybr.
106Dw i wedi addo ar lw
y bydda i'n derbyn dy ddedfryd gyfiawn.
107Dw i'n dioddef yn ofnadwy;
O  Arglwydd, adfywia fi, fel rwyt wedi addo!
108O  Arglwydd, derbyn fy offrwm o fawl,
a dysga dy ddeddfau i mi.
109Er bod fy mywyd mewn perygl drwy'r adeg,
dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
110Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi,
ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion.
111Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth;
maen nhw'n bleser pur i mi!
112Dw i'n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau:
mae'r wobr yn para am byth.

(Samech)

113Dw i'n casáu pobl ddauwynebog;
ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
114Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn!
Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
115Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg!
Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.
116Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw;
paid gadael i mi gael fy siomi.
117Cynnal fi a chadw fi'n saff,
a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.
118Ti'n gwrthod y rhai sy'n crwydro oddi wrth dy ddeddfau –
pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw.
119Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach!
Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.
120Mae meddwl amdanat ti yn codi croen gŵydd arna i;
mae dy reolau di yn ddigon i godi ofn arna i.

(Ayin)

121Dw i wedi gwneud beth sy'n iawn ac yn dda;
paid gadael fi yn nwylo'r rhai sydd am wneud drwg i mi.
122Plîs addo y byddi'n cadw dy was yn saff.
Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu.
123Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i,
ac i dy addewid sicr ddod yn wir.
124Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was;
dysga dy ddeddfau i mi.
125Dy was di ydw i. Helpa fi i ddeall
a gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.
126Mae'n bryd i ti weithredu,  Arglwydd!
Mae'r bobl yma yn torri dy reolau.
127Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di;
mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.
128Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl;
dw i'n casáu pob ffordd ffals.

(Pe)

129Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol,
a dyna pam dw i'n eu cadw nhw.
130Mae dy eiriau di yn goleuo materion,
ac yn rhoi deall i bobl gyffredin.
131Dw i'n dyheu, dw i'n disgwyl yn geg agored
ac yn ysu am dy orchmynion di.
132Tro ata i, a bydd yn garedig ata i;
dyna rwyt ti'n ei wneud i'r rhai sy'n caru dy enw di.
133Dangos di'r ffordd ymlaen i mi;
paid gadael i'r rhai drwg gael y llaw uchaf arna i!
134Gollwng fi'n rhydd o afael y rhai sy'n fy ngormesu,
er mwyn i mi wneud beth rwyt ti'n ei ddweud.
135Bydd yn garedig at dy was,
a dysga dy ddeddfau i mi.
136Mae'r dagrau yn llifo fel afon gen i
am fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di.

(Tsadi)

137Rwyt ti yn gyfiawn, O  Arglwydd;
ac mae dy reolau di yn gwbl deg.
138Mae'r deddfau rwyt ti wedi eu rhoi yn gyfiawn;
ac yn gwbl ddibynadwy.
139Dw i'n gwylltio'n lân
wrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti'n ddweud.
140Mae dy eiriau di wedi eu profi'n wir,
ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw.
141Er fy mod i'n cael fy mychanu a'm dirmygu,
dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
142Mae dy gyfiawnder di yn para am byth;
Mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.
143Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini,
mae dy orchmynion di yn hyfrydwch pur i mi.
144Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth;
rho'r gallu i mi eu deall, i mi gael byw.

(Coff)

145Dw i'n gweiddi arnat ti o waelod calon!
“Ateb fi,  Arglwydd,
er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.”
146Dw i'n gweiddi arnat ti, “Achub fi,
er mwyn i mi gadw dy reolau.”
147Dw i'n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help!
Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
148Dw i'n dal yn effro cyn i wylfa'r nos ddechrau,
ac yn myfyrio ar dy eiriau.
149Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon;
O  Arglwydd, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder!
150Mae'r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes!
Maen nhw'n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di.
151Ond rwyt ti bob amser yn agos,  Arglwydd,
ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.
152Dw i wedi dysgu ers talwm
fod dy reolau di yn aros am byth.

(Resh)

153Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi!
dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
154Dadlau fy achos a helpa fi!
Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud.
155Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti;
dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
156Rwyt ti mor drugarog, O  Arglwydd;
adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder!
157Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i;
ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di.
158Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i,
am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.
159Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion!
O  Arglwydd, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.
160Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy;
mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.

(Sin)

161Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam!
Ond mae dy eiriau di yn rhoi gwefr i mi.
162Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus,
fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.
163Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd;
ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
164Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dydd
am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
165Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff;
does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.
166Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O  Arglwydd!
Dw i'n cadw dy orchmynion di;
167dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau di
ac yn eu caru nhw'n fawr.
168Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di.
Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud.

(Taf)

169Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O  Arglwydd;
helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud.
170Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti.
Achub fi fel rwyt wedi addo.
171Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau,
am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.
172Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau,
am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.
173Estyn dy law i'm helpu.
Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di.
174Dw i'n dyheu i ti fy achub i,  Arglwydd;
Mae dy ddysgeidiaeth di yn hyfrydwch pur i mi.
175Gad i mi fyw, i mi gael dy foli!
gad i dy reolau di fy helpu i.
176Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll.
Tyrd i edrych amdana i!
Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
Copyright information for CYM