Psalms 137

Cân o alar yn y gaethglud

Wrth afonydd Babilon,
dyma ni'n eistedd ac yn wylo
wrth gofio am Seion.
Dyma ni'n hongian ein telynau
ar y coed poplys yno.
Roedd y rhai oedd yn ein dal ni'n gaeth eisiau i ni ganu;
a'n poenydwyr yn ein piwsio i'w difyrru:
“Canwch un o ganeuon Seion i ni!”
Sut allen ni ganu caneuon yr  Arglwydd
ar dir estron?
Os anghofia i di, Jerwsalem,
boed i'm llaw dde gael ei pharlysu.
Boed i'm tafod lynu wrth dop fy ngeg
petawn i'n anghofio amdanat ti,
a phetai Jerwsalem yn ddim pwysicach
na phopeth arall sy'n rhoi pleser i mi.
Cofia, O  Arglwydd, beth wnaeth pobl Edom
y diwrnod hwnnw pan syrthiodd Jerwsalem. a 
Roedden nhw'n gweiddi, “Chwalwch hi!
Chwalwch hi i'w sylfeini!”
Babilon hardd, byddi dithau'n cael dy ddinistrio!
Bydd yr un fydd yn talu'n ôl i ti
ac yn dy drin fel gwnest ti'n trin ni,
yn cael ei fendithio'n fawr!
Bydd yr un fydd yn gafael yn dy blant di
ac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiau
yn cael ei fendithio'n fawr!
Copyright information for CYM