Psalms 97

Duw yn teyrnasu dros bopeth

Yr  Arglwydd sy'n teyrnasu!
Gall y ddaear ddathlu,
a'r ynysoedd i gyd lawenhau!
Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas;
a'i orsedd wedi ei sylfaenu ar degwch a chyfiawnder.
Mae tân yn mynd allan o'i flaen,
ac yn llosgi ei elynion ym mhobman.
Mae ei fellt yn goleuo'r byd;
a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld.
Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr  Arglwydd,
o flaen Meistr y ddaear gyfan.
Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,
a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander.
Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio –
y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth.
Mae'r ‛duwiau‛ i gyd yn plygu o'i flaen.
Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn,
ac roedd pentrefi Jwda'n dathlu
am dy fod ti'n barnu'n deg, O  Arglwydd.
Achos rwyt ti,  Arglwydd, yn Dduw dros yr holl fyd;
rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‛dduwiau‛ eraill i gyd.
10 Mae'r  Arglwydd yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni.
Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,
ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.
11 Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir,
a llawenydd ar y rhai sy'n onest.
12 Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr  Arglwydd,
a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!
Copyright information for CYM