eEseia 28:16 (LXX)
gEseia 52:7 (gw. hefyd Nahum 1:5)
hEseia 53:1 (LXX)
i Salm 19:4 (LXX)
k Eseia 65:1 (LXX)
l Eseia 65:2 (LXX)

Romans 10

Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub. Galla i dystio eu bod nhw'n frwdfrydig dros Dduw, ond dŷn nhw ddim wedi deall y gwirionedd. Yn lle derbyn ffordd Duw o ddod â phobl i berthynas iawn ag e ei hun, maen nhw wedi mynnu ceisio gwneud eu hunain yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith. Felly maen nhw wedi gwrthod plygu i Dduw. Ond y Meseia ydy'r nod mae Cyfraith Duw yn anelu ato! Felly y rhai sy'n credu ynddo fe sy'n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw.

Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn.” a 

Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd?” b  (hynny ydy, i ddod â'r Meseia i lawr) Neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i'r dyfnder” c  (hynny ydy, i ddod â'r Meseia yn ôl yn fyw). Dyma mae'n ei ddweud: “Mae'r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” d  (Hynny ydy, y neges dŷn ni'n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy'r ffordd): Os wnei di gyffesu ‛â'th wefusau‛, “Iesu ydy'r Arglwydd”, a chredu ‛yn dy galon‛ fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub. 10 Credu yn y galon sy'n dy wneud di'n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny'n agored. 11 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.” e  12 Mae'n union yr un fath i'r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae'n rhoi yn hael o'i fendithion i bwy bynnag sy'n galw arno. 13 Achos, “Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub.” f 

14 Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw'n mynd i gredu ynddo heb fod wedi clywed amdano? Sut maen nhw'n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw? 15 A phwy sy'n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da yn dod!” g  16 Ond dydy pawb ddim wedi derbyn y newyddion da. Fel mae'r proffwyd Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy sydd wedi credu ein neges ni?” h 

17 Mae'n rhaid clywed cyn gallu credu – clywed rhywun yn rhannu'r newyddion da am y Meseia. 18 Felly ai dweud ydw i fod yr Iddewon heb glywed? Na, fel arall yn hollol:

“Mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud,
a'u neges wedi mynd i ben draw'r byd.” i 

19 Felly, ai'r broblem ydy fod Israel heb ddeall y neges? Na! – Moses ydy'r cyntaf i roi ateb,

“Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl;
a'ch gwneud yn ddig trwy fendithio pobl sy'n deall dim.” j 

20 Ac roedd y proffwyd Eseia ddigon dewr i gyhoeddi fod Duw yn dweud,

“Daeth pobl oedd ddim yn chwilio amdana i o hyd i fi;
Dangosais fy hun i rai oedd ddim yn gofyn amdana i.” k 

21 Ond mae'n dweud fel yma am Israel:

“Bues i'n estyn fy llaw atyn nhw drwy'r adeg,
ond maen nhw'n bobl anufudd ac ystyfnig.” l 
Copyright information for CYM