1 Samuel 17:27-29

27A dyma'r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd y wobr i bwy bynnag sy'n ei ladd e,” medden nhw.

28Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas. Roedd wedi gwylltio gyda Dafydd ac meddai, “Pam ddest ti i lawr yma? Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.”

29“Be dw i wedi ei wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.”
Copyright information for CYM