2 Samuel 17:25

25Roedd Absalom wedi penodi Amasa yn bennaeth y fyddin yn lle Joab. (Roedd Amasa yn fab i Ismaeliad
17:25 Fel rhai llawysgrifau Groeg (gw. hefyd 1 Cronicl 2:17); Hebraeg, “Israeliad.”
o'r enw Ithra ac Abigail, merch Nachash a chwaer Serwia, mam Joab.)
17:25 Amasa … Serwia, mam Joab Roedd Abigail a Serwia (mam Joab) yn chwiorydd, a Dafydd yn hanner brawd iddyn nhw (yr un fam, ond tad gwahanol). Felly roedd Amasa yn nai i Dafydd (gw. 1 Cronicl 2:12-17).

2 Samuel 18:1-15

1Dyma Dafydd yn casglu'r milwyr oedd gydag e at ei gilydd, a phenodi capteiniaid ar unedau o fil ac o gant. 2Yna anfonodd nhw allan yn dair catrawd. Roedd un o dan awdurdod Joab, un o dan ei frawd Abishai (mab Serwia), a'r llall o dan Itai o Gath. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i'n hun am ddod allan i ymladd gyda chi hefyd.” 3Ond dyma'r dynion yn ateb, “Na, paid. Petai'n rhaid i ni ffoi am ein bywydau fyddai neb yn malio – hyd yn oed petai hanner y fyddin yn cael eu lladd! Ond rwyt ti'n werth deg mil ohonon ni. Byddai'n fwy o help i ni petaet ti'n aros yn y dre.” 4Ac meddai'r brenin, “Os mai dyna dych chi'n feddwl sydd orau, dyna wna i.”

Yna safodd y brenin wrth giât y dre wrth i'r dynion fynd allan fesul catrawd. 5A dyma fe'n gweiddi ar Joab, Abishai ac Itai, “Er fy mwyn i, byddwch yn garedig at y bachgen Absalom.” Roedd y fyddin gyfan wedi ei glywed yn rhoi'r gorchymyn yma i'w swyddogion.

6Dyma nhw'n mynd allan i frwydro yn erbyn byddin Israel. Roedd y brwydro yng Nghoedwig Effraim. 7A dyma ddilynwyr Dafydd yn gorchfygu byddin Israel. Roedd colledion mawr. Cafodd dau ddeg mil eu lladd y diwrnod hwnnw. 8Roedd y frwydr wedi lledu i bobman. Ond cafodd mwy o ddynion eu lladd o achos peryglon y goedwig na gafodd eu lladd gan y cleddyf!

9Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i'r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr. 10Dyma un o'r dynion welodd beth ddigwyddodd yn mynd i ddweud wrth Joab, “Dw i newydd weld Absalom yn hongian o goeden fawr.” 11Atebodd Joab, “Beth? Welaist ti e? Pam wnes ddim ei ladd e yn y fan a'r lle? Byddwn i wedi rhoi deg darn arian a medal
18:11 medal Hebraeg, “belt”, sef gwregys i arwisgo milwr am wneud rhywbeth arwrol.
i ti.”
12Ond dyma'r dyn yn dweud, “Hyd yn oed petawn i'n cael mil o ddarnau arian, fyddwn ni ddim yn cyffwrdd mab y brenin! Clywodd pawb y brenin yn dy siarsio di ac Abishai ac Itai i ofalu am y bachgen Absalom. 13Petawn i wedi gwneud rhywbeth iddo byddai'r brenin yn siŵr o fod wedi clywed, a byddet ti wedi gadael i mi gymryd y bai!”

14Dyma Joab yn ateb, “Dw i ddim am wastraffu amser fel yma.” A dyma fe'n cymryd tair gwaywffon a'u gwthio nhw drwy galon Absalom pan oedd yn dal yn fyw yn y goeden. 15Yna dyma'r deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab yn casglu o gwmpas Absalom a'i ladd.

Copyright information for CYM