Deuteronomy 18:9-13

9“Pan fyddwch wedi cyrraedd y tir mae'r Arglwydd yn ei roi i chi, peidiwch gwneud y pethau ffiaidd mae'r bobl sy'n byw yno nawr yn eu gwneud. 10Ddylai neb ohonoch chi aberthu ei fab neu ei ferch drwy dân. Ddylai neb ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio, 11swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda'r ocwlt neu geisio siarad â'r meirw. 12Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr Arglwydd, a dyna pam mae e'n gyrru'r bobl sydd yno allan o'ch blaen chi. 13Rhaid i chi wneud yn union beth mae'r Arglwydd eich Duw eisiau.
Copyright information for CYM