Exodus 13:21

21Roedd yr Arglwydd yn arwain y ffordd mewn colofn o niwl yn ystod y dydd, a cholofn o dân yn y nos. Felly roedden nhw'n gallu teithio yn y dydd neu'r nos.

Exodus 24:16

16Roedd ysblander yr Arglwydd yn gorffwys ar Fynydd Sinai. Roedd y cwmwl wedi ei orchuddio am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Duw yn galw ar Moses o ganol y cwmwl.

Exodus 40:36-38

36Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y Tabernacl, roedd pobl Israel yn mynd ymlaen ar eu taith. 37Os nad oedd y cwmwl yn codi, doedden nhw ddim yn symud o'u lle. 38Roedd cwmwl yr Arglwydd ar y Tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân yn y cwmwl drwy'r nos. Roedd pobl Israel i gyd yn gallu ei weld, yr holl amser buon nhw'n teithio.

Copyright information for CYM