Exodus 21:2-6

2Os wyt ti'n prynu Hebrëwr yn gaethwas, rhaid iddo weithio i ti am chwe mlynedd. Ond ar ddechrau'r seithfed flwyddyn mae'n rhydd i fynd, heb dalu dim i ti. 3Os oedd yn sengl pan ddechreuodd weithio i ti, bydd yn gadael ar ei ben ei hun; ond os oedd yn briod, bydd ei wraig yn cael mynd gydag e. 4Os mai ei feistr roddodd wraig iddo, a hithau wedi cael plant, mae'r wraig a'i phlant yn aros gyda'r meistr, a'r gwas yn gadael ar ei ben ei hun. 5Ond falle y bydd y gwas yn dweud, ‘Dw i'n hapus gyda fy meistr, fy ngwraig a'm plant – dw i ddim eisiau bod yn ddyn rhydd.’ 6Os felly, bydd rhaid i'r meistr fynd i'w gyflwyno o flaen Duw. Wedyn bydd y meistr yn mynd ag e at y drws neu ffrâm y drws, ac yn rhoi twll trwy glust y gwas gyda mynawyd, i ddangos ei fod wedi dewis gweithio i'w feistr am weddill ei fywyd.

Deuteronomy 15:12-18

12“Os ydy un o'ch pobl, Hebrëwr neu Hebraes, yn gwerthu ei hun i chi, dylai weithio i chi am chwe mlynedd, ond yna ar ddechrau'r seithfed flwyddyn rhaid i chi ei ollwng yn rhydd. 13A peidiwch ei anfon i ffwrdd yn waglaw – 14dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel mae'r Arglwydd wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw. 15Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr Arglwydd wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn heddiw.

16“Ond os ydy'r gwas yn dweud, ‘Dw i ddim eisiau dy adael di,’ am ei fod yn hapus gyda ti a dy deulu, a bod bywyd yn dda arno, 17cymer fynawyd a gwneud twll drwy ei glust i'r drws. Wedyn bydd yn was i ti am weddill ei oes (Ac mae'r un peth i'w wneud gyda dy forwyn.)

18“Paid cwyno os ydy'r gwas neu'r forwyn am gael mynd yn rhydd. Wedi'r cwbl byddi wedi cael chwe blynedd o wasanaeth am hanner y gost o gadw gwas cyflog. Bydd yr Arglwydd dy Dduw yn bendithio popeth wnei di os byddi di'n ufudd.

Yr anifail cyntaf i gael ei eni

Copyright information for CYM