Ezekiel 13:10-15

10“Ydyn, maen nhw wedi camarwain pobl. Maen nhw wedi dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad ydy pethau'n iawn o gwbl. Mae fel adeiladu wal sych sydd braidd yn simsan, a phobl yn meddwl y bydd peintio drosti yn ei gwneud hi'n saffach! 11Dywed wrth y rhai sy'n peintio: ‘Pan ddaw glaw trwm a chenllysg a gwynt stormus, 12a'r wal wedi syrthio, bydd pobl yn gofyn, “Beth ddigwyddodd i'ch gwaith chi?”

13“‘Felly dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i anfon gwynt stormus, glaw trwm, a chenllysg fydd yn achosi difrod ofnadwy. 14Bydda i'n chwalu'r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni'n sefyll. A pan fydd hi'n syrthio, byddwch chithau'n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd. 15Dw i'n mynd i dywallt hynny o ddigofaint sydd gen i ar y wal, ac ar y rhai fuodd yn ei pheintio. Ac wedyn bydda i'n dweud, “Dyna ni, mae'r wal wedi mynd, a'r peintwyr hefyd –
Copyright information for CYM