Genesis 18:11-14

11(Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.) 12Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd Sara'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.” 13A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’ 14Dw i, yr Arglwydd, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.”

Genesis 21:2

2Dyma hi'n beichiogi, ac yn cael mab i Abraham pan oedd e'n hen ddyn, ar yr union adeg roedd Duw wedi'i ddweud.
Copyright information for CYM