Genesis 19:24-28

24A dyma'r Arglwydd yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra. 25Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion. 26A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a cafodd ei throi yn golofn o halen.

27Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr Arglwydd. 28Edrychodd i lawr ar y dyffryn ac i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais.
Copyright information for CYM