Genesis 22:1-14

1Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie, dyma fi,” atebodd Abraham. 2Ac meddai Duw wrtho, “Cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti'n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o'r mynyddoedd. Bydda i'n dangos i ti pa un.”

3Felly dyma Abraham yn codi'n fore, torri coed ar gyfer llosgi'r offrwm, a'u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o'i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho. 4Ar ôl teithio am ddeuddydd roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter. 5Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda'r asyn tra dw i a'r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni'n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni'n ôl atoch chi.” 6Dyma Abraham yn rhoi'r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a'r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda'i gilydd.

7“Dad,” meddai Isaac wrth Abraham. “Ie, machgen i?” meddai Abraham. “Dad, mae gen ti dân a choed ar gyfer llosgi'r offrwm, ond ble mae'r oen sydd i gael ei aberthu?” 8“Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda'i gilydd.

9Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe'n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor. 10Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab. 11Ond dyma angel yr Arglwydd yn galw arno o'r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? dyma fi” meddai Abraham. 12“Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i'n gwybod bellach dy fod ti'n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.” 13Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab. 14Galwodd Abraham y lle yn “Yr Arglwydd sy'n darparu”.
22:14 Hebraeg, “Yr Arglwydd sy'n gweld”
Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae'r Arglwydd yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.”

Copyright information for CYM