Isaiah 2:2-4

2Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr Arglwydd
wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill,
a'i godi'n uwch na'r bryniau.
Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,
3a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:
“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr Arglwydd,
2:3 Mynydd yr Arglwydd Mynydd Seion, y bryn yn Jerwsalem lle roedd y deml wedi ei hadeiladu.

a mynd i deml Duw Jacob,
iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,
ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”
Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,
a neges yr Arglwydd o Jerwsalem.
4Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd b
ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.
Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr
a'u gwaywffyn yn grymanau tocio.
Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,
nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. c

Micah 4:1-3

1Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr Arglwydd
wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill
a'i godi'n uwch na'r bryniau.
2Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno
a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:
“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr Arglwydd,
4:2 Mynydd yr Arglwydd Mynydd Seion, y bryn yn Jerwsalem lle roedd y deml wedi ei hadeiladu.

a mynd i deml Duw Jacob,
iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,
ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”
Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,
a neges yr Arglwydd o Jerwsalem.
3Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd e
ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell.
Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr
a'u gwaywffyn yn grymanau tocio.
Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,
nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. f
Copyright information for CYM