Isaiah 7:14
14Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel. ▼▼7:14 Emaniwel Ystyr yr enw Hebraeg ydy “Mae Duw gyda ni”.
,
b Isaiah 45:14
14Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affrica ▼▼45:14 Affrica Hebraeg, Cwsh. Yr ardal i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
a'r Sabeaid tal,
yn dod yn eiddo i ti.
Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni,
yn plygu o dy flaen di,
ac yn pledio:
‘Dim ond gyda ti mae Duw,
a does dim duw arall o gwbl!’”
Haggai 1:13
13Yna dyma Haggai, negesydd yr Arglwydd, yn rhoi neges arall gan Dduw i'r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai'r Arglwydd.”
Copyright information for
CYM